Mae Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi’r rhai sy’n streicio, gan feio penderfyniadau llywodraethau i beidio buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus am ddirywiad amodau gwaith a chyflog mewn termau real.

Mae’r streiciau yn ymwneud ag amodau gwaith yn ogystal â chynnydd mewn cyflogaeth.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cynnal amodau gwaith digonol.

“Mae gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi byw trwy 12 mlynedd o lymder, ac wedi gweld eu cyflogau’n disgyn,” meddai’r cadeirydd Robat Idris.

“Mae hyn yn golygu fod mwy fyth yn cael eu gorfodi o’u cymunedau, gan eu bod yn methu fforddio prynu na rhentu cartref lleol, ac felly bod y cymunedau eu hunain yn dod yn anhyfyw oherwydd diffyg gweithwyr yn y gwasanaethau.

“Penderfyniad gwleidyddol yw peidio buddsoddi na blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr y sector cyhoeddus, yn yr un modd, penderfyniadau gwleidyddol sy’n milwrio’n erbyn y Gymraeg a’n cymunedau.”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae tueddiad i feddwl am y Gymraeg fel rhywbeth ar wahân, ond dydy hynny ddim yn wir.

“Rydyn ni’n cefnogi’r rhai sy’n gweithredu’n ddiwydiannol, nid yn unig oherwydd cyfiawnder sylfaenol eu hachos, ond hefyd oherwydd fod eu llwyddiant yn hanfodol bwysig i barhad llawer o’n cymunedau Cymraeg,” meddai Robat Idris wedyn.