Mae dyn sydd wedi goroesi ataliad y galon yn galw ar bobol i ddod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd diffibrilwyr.
Roedd Peter Belson o Gaerffili yn 55 oed pan ddioddefodd ataliad y galon, ac mae’n cefnogi ymgyrch Defibruary Ambiwlans St John Cymru gan ei fod yn cydnabod eu pwysigrwydd yn fwy na’r mwyafrif.
Pwrpas yr ymgyrch ydy gwneud pobol yn fwy ymwybodol o ddiffibrilwyr yn eu hardal, ac mae Ambiwlans St John Cymru’n cynnal sesiynau hyfforddi cymorth cyntaf fel bod pobol yn fwy hyderus yn eu defnyddio.
Dechreuodd Peter Belson deimlo’n sâl wrth deithio adref gyda’i wraig, Kelly, ym mis Tachwedd 2021.
Doedd ganddo ddim syniad pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa i ddechrau, ond yn fuan gwaeddodd mewn poen ac aeth i edrych yn “llwyd, yn llechwraidd ac i anadlu’n rhyfedd”, meddai ei wraig.
Stopiodd mewn gorsaf betrol, a digwydd taro ar gar heddlu, a wnaeth eu helpu i ddod o hyd i ddiffibriliwr, a gafodd ei ddefnyddio pan gafodd Peter Belson ataliad ar y galon.
Yn dilyn sioc y diffibriliwr, adenillodd Pete ymwybyddiaeth, dywedodd Kelly “maen nhw’n dweud bod eich bywyd yn fflachio o flaen eich llygaid, ac fe wnaeth hynny yn bendant. Roedd llygaid Pete yn agor yn llydan ac yn syllu i’r gofod”.
‘Gwrando ar fy nghorff’
Yn dilyn ataliad ar y galon, mae’r tebygolrwydd y bydd person yn goroesi yn lleihau 10% gyda bob munud sy’n pasio heb weithredu.
“Mae wedi bod yn broses adfer hir sy’n mynd rhagddi; Adsefydlu Cardiaidd, ymarfer corff, diet ac ati, ond rydw i’n cyrraedd yno,” meddai Peter Belson.
“Dw i wedi bod yn gwrando ar fy nghorff ac yn dysgu dweud na.”
Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn cefnogi ymgyrch Defibruary Ambiwlans St John Cymru dywedodd fod “diffibrilwyr yn achub bywydau”.
“Mae wedi achub fy mywyd i,” meddai.
‘Y cyflymaf y gorau’
Chwaraeodd gweithredu prydlon yr heddlu a’r defnydd cynnar o ddiffibriliwr ran enfawr yng ngoroesiad Peter, meddai Ambiwlans St John Cymru.
“Mae bod yn ymwybodol o’ch diffibriliwr agosaf mor bwysig, yn ogystal â chael yr hyder i ddefnyddio un mewn sefyllfa o argyfwng.
“Po gyflymaf y bydd rhywun yn gweithredu y mwyaf o siawns sydd o achub bywyd.
“Amcangyfrifir bod 100,000 o ddiffibrilwyr ledled y Deyrnas Unedig, ond mae llawer o’r rhain yn anhysbys i’r gwasanaethau brys.”