Mae disgwyl i streiciau sy’n cael eu cynnal heddiw (dydd Mercher, Chwefror 1) amharu ar wasanaethau ledled y wlad.

Staff ysgolion, colegau, trenau a’r Llywodraeth sy’n streicio, wrth i Gyngres yr Undebau Llafur gynnal diwrnod “gwarchod yr hawl i streicio”.

Daw hyn ar ôl i’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan gyflwyno deddfwriaeth i dorri ar hawl gweithwyr i streicio, wrth iddyn nhw gyflwyno isafswm lefelau gwasanaeth – hynny yw, bydd rhai gweithwyr yn colli tâl os ydyn nhw’n streicio.

Ysgolion

Mae disgwyl i’r streiciau amharu ar addysg miloedd o blant ledled Cymru, wrth i ysgolion gau ac eraill yn canslo dosbarthiadau sydd i fod i gael eu cynnal mewn ysgolion sy’n dal ar agor.

Ymhlith yr undebau sy’n streicio mae NEU Cymru, a’r disgwyl yw y bydd pedwar diwrnod o streiciau ym myd addysg.

Mae athrawon yn galw am godiad cyflog o ryw 12% uwchben chwyddiant, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod hyd yn hyn.

Bydd effaith y streiciau’n ddibynnol ar faint o aelodau o’r undeb sydd ym mhob ysgol.

Mae rhieni’n cael eu cynghori i wirio gwefan ysgol eu plant i weld beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf.

Gall fod gofyn i athrawon drefnu gwersi ar-lein sydd wedi’u recordio ymlaen llaw.

Yn ogystal â’r streic, mae prifathrawon sy’n aelodau o’r NAHT yn gweithredu’n ddiwydiannol ond dydyn nhw ddim yn streicio fel y cyfryw.

Prifysgolion

Undeb arall sy’n streicio yw’r UCU, sef undeb y prifysgolion a’r colegau.

Ymhlith aelodau’r undeb mae darlithwyr, gweinyddwyr, llyfrgellyddion a thechnegwyr.

Hwn yw’r cyntaf o 18 diwrnod o streiciau ar draws Chwefror a Mawrth.

Mae 62 o brifysgolion yn rhan o’r streiciau, gan gynnwys Abertawe, Bangor, Caerdydd a’r Drindod Dewi Sant.

Cyflogau, amodau gwaith a phensyniau yw asgwrn y gynnen.

Bydd staff mewn colegau a phrifysgolion eraill, gan gynnwys Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn streicio tros gyflogau ac amodau gwaith.

Mae rhai prifysgolion wedi ymestyn dyddiadau cyflwyno gwaith cwrs ac mae darlithoedd wedi’u haildrefnu.

Mae’r undeb yn galw am ddod â chytundebau oriau sero a chytundebau dros dro i ben, a mynd i’r afael â llwyth gwaith sy’n arwain at oriau o waith di-dâl.

Cafodd undeb UCU gynnig o 4-5%, ond maen nhw eisiau newid y drefn o ran pensiynau fel bod cyfraniadau cyflogwyr yn cynyddu, ac maen nhw hefyd yn galw am wyrdroi’r gostyngiad mewn buddiannau pensiwn.

Ond mae rhybudd fod unrhyw godiad cyflog yn peryglu swyddi, ac y bydd rhaid i staff gynyddu eu cyfraniadau pensiwn eu hunain yn ôl y drefn bresennol.

Trenau

Undeb arall sydd ag aelodau sy’n streicio yw Aslef, sef gyrwyr trenau.

Mae’n effeithio ar oddeutu pymtheg o gwmnïau, gan gynnwys Avanti West Coast, Great Western Railway a CrossCountry.

Cafodd gyrwyr gynnig codiad cyflog o 4% ddwy flynedd yn olynol, yn seiliedig ar newidiadau yn eu harferion gwaith.

Mae undeb RMT wedi cadarnhau bod eu haelodau ar draws 14 o gwmnïau yn streicio.

Mae disgwyl i ryw draean o wasanaethau redeg, ond bydd newid yn y drefn arferol a’r disgwyl yw y bydd oedi y diwrnod cyn ac ar ôl y streiciau.

Bydd modd i deithwyr sy’n cael eu heffeithio gael ad-daliad neu newid eu tocynnau, a bydd modd i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y streiciau ar Chwefror 1 neu 3 ddefnyddio’u tocyn hyd at Chwefror 7 ar daith arall.

Gweision sifil

Mae oddeutu 100,000 o weision sifil sy’n aelodau o undeb PCS hefyd yn streicio.

Bydd y streiciau’n effeithio ar bobol sy’n derbyn budd-daliadau, sydd wedi trefnu prawf gyrru, neu sydd eisiau cael pasbort neu drwydded yrru.

Bydd meysydd awyr a phorthladdoedd hefyd yn cael eu heffeithio, meddai’r undeb.

Ymhlith y sefydliadau fydd yn cael eu heffeithio mae’r Senedd, y Llyfrgell Genedlaethol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y DVLA, y DVSA, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gofrestrfa Dir.

Mae’r PCS yn galw am godiad cyflog o 10%, mwy o bensiwn, mwy o sicrwydd swyddi a dim toriadau i amodau diswyddiadau.