Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y dylai gwleidyddion Llafur a Phlaid Cymru ildio eu cyflogau am ddiwrnod ar ôl iddyn nhw benderfynu dangos undod gyda gweision sifil sydd ar streic.
Fydd dim busnes yn cael ei gynnal yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 1), gan fod Llafur a Phlaid Cymru yn gwrthod croesi’r llinell biced gan fod undeb y gwasanaeth sifil ar streic.
Mae’n cyd-fynd â streiciau eraill yng Nghymru gan gynnwys athrawon.
Bydd streiciau hefyd yn effeithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, addysgu prifysgolion ac ysbytai wrth i nyrsys streicio eto.
‘Difrod’
“Ni fydd pobol Cymru yn bles gyda Llafur a Phlaid Cymru am beidio gweithio pan mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y system addysg, a’r economi angen sylw,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dylai aelodau’r Senedd fod yn trafod ac yn craffu – yn hytrach mae’r pleidiau hyn yn cymryd diwrnod i ffwrdd pan ddylen nhw fod yn gweithio i ddod â’r streiciau i ben.
“Ac onid yw’n ddiddorol y bydd Llafur yn croesi’r llinell biced i nyrsys ac athrawon, ond ddim am weision i sifil sy’n talu’n well?
“Dylai Llafur a Phlaid ildio eu cyflog am y diwrnod – fel arall ble mae’r undod maen nhw’n honni eu bod yn ei ddangos pan fo gweithwyr yn colli allan ar eu cyflogau?
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio, yn gwneud yr hyn a allwn i ddal y Llywodraeth Lafur a’i phartneriaid Plaid Cymru i gyfrif am y difrod maen nhw’n yn ei wneud yng Nghymru.”