Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, yn croesawu’r cynlluniau i wella diogelwch ar ffordd B4405 yn Nhalyllyn, Meirionnydd, yn dilyn cyfres o wrthdrawiadau ac ymgyrch leol i fynnu gwelliannau.

Daw hyn ar ôl i arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan alw am adolygiad cynhwysfawr o ddiogelwch ar hyd ffordd B4405 rhwng Bryncrug a Thalyllyn.

Arweiniodd hyn at gomisiynu arolwg gan Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd, sydd bellach wedi adrodd yn ôl.

Mae Cyngor Gwynedd bellach wedi cadarnhau bod bwriad i ostwng y terfyn cyflymder o amgylch Talyllyn i 30m.y.a. ynghyd a gosod cyfyngiad cyflymder o 40m.y.a. y naill ochr i’r parth 30m.y.a.

Yn ogystal, mae cynlluniau i wella wyneb y ffordd rhwng Gwesty Penybont a Phont Cedris.

Mae’r cynigion bellach yn destun ymgynghoriad.

‘Damweiniau difrifol’

“Mae’r ffordd o Fryncrug, Tywyn i gyfeiriad Talyllyn yn enwog am ei darnau hir a’i throadau sydyn ac mae’n ffordd boblogaidd a hynod brysur ymhlith traffig lleol a thraffig gwyliau,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae’r ffordd wedi bod yn safle nifer o ddamweiniau difrifol yn y blynyddoedd diwethaf a ysgogodd alwadau am adolygiad cynhwysfawr i ddigonolrwydd y mesurau diogelwch ffyrdd presennol.

“Rwy’n falch bod yr adolygiad hwnnw bellach wedi dod i ben ac mae ei ganfyddiadau’n cefnogi fy ymyriad i ynghyd a Chynghorwyr ac ymgyrchwyr lleol ar gyfer gostwng y terfyn cyflymder ar rai rhannau o’r ffordd – galwad a gefnogwyd gan Heddlu Gogledd Cymru.

“Rwy’n croesawu’r ffaith bod Adran Briffyrdd Cyngor Gwynedd rŵan yn bwriadu ymgynghori ar gynlluniau i ostwng y terfyn cyflymder o amgylch Talyllyn i 30mya yn ogystal â gosod cyfyngiad cyflymder o 40mya bob ochr i’r parth 30mya.

”Mae diogelwch ar y ffyrdd yn ymwneud â lleihau risg ac mae’n galonogol gweld mesurau pendant yn cael eu cymryd i roi’r cyfyngiadau cyflymder newydd hyn ar waith.

“Ni all hyn ddigwydd yn ddigon buan ac rwy’n cefnogi’r Adran Priffyrdd ac awdurdodau partner wrth iddynt gymryd camau i roi mesurau ar waith i wella diogelwch ar hyd y ffordd brysur a pheryglus hon.”