Mae nyrsys ledled Cymru wedi pleidleisio i streicio dros “dâl teg”, gyda disgwyl i’r streicio ddechrau cyn diwedd y flwyddyn.
Bydd nyrsys sy’n aelodau o’r Coleg Nyrsio Brenhinol ymhob bwrdd iechyd yng Nghymru oni bai am Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yng Ngwent yn cymryd rhan mewn streiciau.
Fe fydd nyrsys yn streicio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, ynghyd ag yn tua hanner byrddau iechyd Lloegr.
Dyma’r tro cyntaf ers i’r Coleg Nyrsio Brenhinol gael ei sefydlu 106 o flynyddoedd yn ôl i streiciau gael eu cynnal dros y Deyrnas Unedig.
Yng Nghymru, mae nyrsys wedi cael cynnig codiad cyflog o 4.75% ar gyfartaledd – gyda’r rhai ar y cyflogau isaf yn cael y codiad mwyaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cytuno y dylai gweithwyr gael tâl teg, ond, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan, mae eu gallu i fynd i’r afael â’r pryderon yn “gyfyngedig”.
‘Gwobrwyo’n deg’
Wrth ymateb i ganlyniad y bleidlais, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod ei blaid “ar ochr yr holl weithwyr sy’n ymladd dros dâl teg ac amodau gweithio diogel”.
“Fedrwn ni ddim disgwyl am y math o ymrwymiad parhaus mae nyrsys yn ei roi i’w gwaith a’u cleifion, heb sicrhau eu bod nhw’n cael eu gwobrwyo’n iawn ac yn deg,” meddai.
“Fyddai neb eisiau gweithredu diwydiannol pe bai unrhyw opsiwn arall – ac mae hynny’n cynnwys y nyrsys eu hunain, yn fwy na neb – ond mae’r ffaith bod y bleidlais wedi cael ei chynnal yn y lle cyntaf yn awgrymu cryfder y teimlad.”
‘Torchi’u llewys’
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dangos eu cefnogaeth i’r Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd, gan ddweud mai nyrsys yw “asgwrn cefn ein system iechyd”.
“Mae hi’n annerbyniol eu bod nhw wedi cael cynnig codiad cyflog is na chwyddiant,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.
“Dyma’r bleidlais statudol gyntaf yn hanes y Coleg Nyrsio Brenhinol, does neb eisiau gweld streiciau ym maes gofal iechyd, ond mae’r sefyllfa economaidd, sydd wedi cael ei hachosi i raddau helaeth gan anallu Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, yn gadael staff gweithgar ag ychydig iawn o ddewis.
“Pan mae gennym ni nyrsys yn defnyddio banciau bwyd, mae hi’n amlwg nad yw’r system yn gweithio a rhaid i ni wneud yn well.
“Mae angen i Lafur ym Mae Caerdydd a’r Ceidwadwyr yn San Steffan dorchi’u llewys a sicrhau bod staff gofal iechyd yn cael eu talu ar gyfradd deg.”
Penderfyniad ‘anffodus iawn’
Dywedodd llefydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, ei bod hi’n “anffodus iawn” bod nyrsys wedi penderfynu streicio, “gyda’r holl oblygiadau ar gyfer cleifion sy’n dibynnu ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.
Ychwanegodd: “Fodd bynnag, does dim amheuaeth bod tâl ac amodau nyrsys yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Llafur Bae Caerdydd.
“Pwysleisiaf na allwn ni gael Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n ddibynnol ar nyrsys o asiantaethau, ond mewn Cymru sy’n cael ei rhedeg gan Lafur, dyna’r achos yn barod, gyda mil yn fwy o swyddi gwag ymysg nyrsys nawr o gymharu â’r llynedd, a £134m yn cael ei weithio ar weithwyr o asiantaethau.
“Dw i’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â’r Coleg Nyrsio Brenhinol i ddod â’r anghydfod i ben mor sydyn â phosib – mae hi’n warthus nad ydy hi wedi gwneud hynny hyd yn hyn, a hynny ar draul cleifion a staff dros Gymru.”
‘Dicter yn troi yn weithredu’
Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr wedi cynnig codiad cyflog o 4.75% ar gyfartaledd i nyrsys hefyd.
Yn yr Alban, mae nyrsys wedi cael cynnig codiad cyflog o ychydig dros £2,200, a gan nad oes yna lywodraeth weithredol yng Ngogledd Iwerddon, dydy nyrsys yno heb gael cynnig codiad cyflog eto.
Mae “dicter wedi troi yn weithredu”, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol a Phrif Weithredwr y Coleg Nyrsio Brenhinol.
“Mae ein haelodau’n dweud mai digon yw digon,” meddai Pat Cullen.
“Rhaid i weinidogion edrych yn y drych a gofyn pa mor hir fyddan nhw’n rhoi staff nyrsio drwy hyn.
“Bydd y gweithredu hyn er lles cleifion, yn ogystal â nyrsys.
“Mae safonau yn disgyn yn rhy isel ac mae gennym ni gefnogaeth gref gan y cyhoedd i’w codi nhw.”
‘Dylai nyrsys gael eu talu’n deg’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cydnabod “pam bod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio sut wnaethon nhw ac rydyn ni’n cytuno y dylai nyrsys gael eu talu’n deg am eu gwaith pwysig”.
“Rydyn ni hefyd yn cydnabod y dicter a’r siom y mae llawer o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn ei deimlo ar hyn o bryd,” meddai.
“Ond heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn fynd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.
“Yn dilyn y canlyniad, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a byrddau iechyd ar eu cynlluniau wrth gefn.
“Dylai’r cyhoedd fod yn sicr y bydd trefniadau’n cael eu gwneud gyda Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru i sicrhau bod lefel ddiogel o staffio bob amser, gyda gofal achub a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu yn ystod unrhyw weithredu diwydiannol.”