Mae cwmni gofal iechyd Bupa wedi derbyn beirniadaeth am atal gweithiwr rhag cyfathrebu â’i gydweithwyr yn Gymraeg.

Derbyniodd y gweithiwr, oedd yn gweithio yn un o’u deintyddfeydd, e-bost a llythyr gan Bupa Dental Care yn dweud na ddylai gyfathrebu yn Gymraeg gyda staff eraill.

Yn dilyn cais gan yr unigolyn, mae ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg wedi dyfarnu bod y cwmni gofal iechyd preifat wedi ymyrryd â’i ryddid i ddefnyddio’r iaith.

Wrth drio cyfiawnhau’r rhesymau dros yr ymyrraeth, dywedodd Bupa bod angen osgoi gwallau gweinyddol a bod defnyddio’r Gymraeg yn yr achos dan sylw yn gyfystyr â thorri cytundeb swydd.

Ond nid oedd y Comisiynydd o’r farn bod yna gyfiawnhad i ymyrryd â’r rhyddid oedd gan yr unigolyn i gyfathrebu yn Gymraeg.

“Ni ddarganfûm unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw wallau wedi digwydd o ganlyniad i ddefnydd yr unigolyn nac unrhyw aelod staff arall o’r Gymraeg,” meddai.

“Ni ddeuthum o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod defnydd yr unigolyn o’r Gymraeg gyda staff yn cyfateb ag unrhyw doriad yn ei gytundeb gwaith.”

‘Parchu dewis staff’

Dylai Bupa wneud mwy i gydnabod, parchu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg rhwng staff yn eu deintyddfeydd, meddai’r Swyddfa’r Comisiynydd.

“Mae Cymru yn wlad ddwyieithog, sy’n golygu y dylai cyflogwyr a staff barchu a chydnabod y ffaith y gall rhai unigolion o fewn y gweithle ddewis cyfathrebu yn y Gymraeg gydag eraill wrth eu gwaith,” ychwanegodd.

“Yn naturiol, mae cyfathrebu rhwng pobol yn y Gymraeg yn rhan gynhenid o fywyd yng Nghymru.

“Ni ddylai pobol felly deimlo bod defnyddio’r Gymraeg yn achosi rhwystr afresymol na theimlo dan bwysau i droi at y Saesneg.

“Dylai Bupa fod yn effro i’r cysyniad o orfod cynnal ei fusnes yng Nghymru mewn modd sydd yn golygu parchu dewis staff i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chyd-weithwyr.

“At y diben hwn, awgrymaf y dylai’r cwmni fabwysiadu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithleoedd a gynhelir yng Nghymru.”