Bydd marchnad Nadolig yn Galeri yng Nghaernarfon ar Dachwedd 20 – a hynny am y tro cyntaf ers 2019.
Bydd cyflenwyr, crefftwyr a chynhyrchwyr lleol yr ardal yno, a bydd y stondinau ar agor i’r cyhoedd yn y bar/cyntedd a’r theatr rhwng 10.30yb a 4yp.
Yn ogystal â’r farchnad, bydd dangosiadau ffilmiau Nadoligaidd yn y sinema a bydd angen prynu tocynnau i fynychu.
Bydd sesiynau a gweithdai celf yn y stiwdio hefyd, a byddan nhw’n gofyn am gyfraniad tuag at elusen am gymryd rhan.
Effaith Covid a’r argyfwng costau byw ar grefftwyr a chynhyrchwyr lleol
Un fydd â stondin yn y farchnad yw Becci Phasey, sydd â busnes o’r enw Bagiau Becci yn gwerthu bagiau a nwyddau lledr sydd wedi’u hailgylchu.
Wrth siarad â golwg360, dywed Becci Phasey fod effaith y cyfnod clo wedi ei harwain i ddechrau busnes, ond mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith arni.
“O’n i’n stryglo i ffeindio gwaith achos Covid, achos roedd gymaint o lefydd dal ar gau,” meddai.
“Dyna pryd wnes i gychwyn a lansio’r busnes.
“Oedd o’n rili llwyddiannus, jest ar-lein.
“Mewn rhyw ffordd ryfedd, wnaeth Covid effeithio ar waith arall fi ond wnaeth o ganiatáu i fi ganolbwyntio ar y busnes newydd a chreu bagiau.
“O’n i adref beth bynnag ac roedd dal modd i bobol archebu stwff ar-lein.
“Mi wnaeth o dal weithio.”
Effaith ar Bagiau Becci
Wrth sôn am effaith y cyfnod clo arni hi a chynhyrchwyr eraill yr ardal, dywed fod busnesau eraill o’i chwmpas hi’n dechrau cau.
“O’n i’n trio creu busnes ac elw tra roedd pethau’n dod i ben ac yn cau, ddim yn cael cwrdd wyneb yn wyneb, dim ffeiriau, dim cynnyrch wyneb yn wyneb cyn Dolig, so oedd hynny’n rili anodd,” meddai wedyn.
“Dim y gymuned o’r ffeiriau crefftau, oedda chdi jest ar ben dy hun adref yn trio cynnal busnes.”
Wrth drafod yr argyfwng costau byw, dywed ei bod hi’n lwcus ei bod hi’n rhedeg y busnes o adre.
“Dydi ailgylchu lledr ddim mor ddrud â defnyddio deunyddiau newydd,” meddai wedyn.
“Mae pobol yn llai tebygol o wario efallai.
“Tra bod pethau ar gael yn rhad ac ar-lein, mae’n anodd convince-io pobol i siopa yn fach a siopa yn lleol.
“Mae costau cynhyrchu drud efo llaw am wneud o’n rhy ddrud i brynu.”
Er yr effaith ddrwg ar fusnesau bach lleol, mae Becci Phasey yn credu bod “wastad marchnad i bethau sydd wedi’u gwneud gyda llaw.”
Dywed nad yw pawb am brynu, ond ei gobaith yw y bydd rhai mewn sefyllfa i brynu gan fusnesau bach, ac y bydd pobol yn “parhau i wneud hynna, yn enwedig ’Dolig”.
“Efallai wnawn ni ddim gweld effaith yr argyfwng costau byw tan y flwyddyn newydd, pan fydd pobol yn llai tebygol o siopa beth bynnag, a hyd yn oed yn llai tebygol o siopa efo busnesau bach efallai,” meddai.
“Mae’r Nadolig dal yn mynd i fod yn brysur.
“Yr effaith ar ôl hynna dwi’n poeni amdano fwyaf.”