Bydd £2m yn cael ei wario ar foderneiddio ardaloedd aros yn adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru y gaeaf hwn.

Fel rhan o’r gwelliannau, bydd cyfleusterau fel seddi gwell a sgriniau gwybodaeth yn cael eu darparu, a bydd darpariaeth dŵr a bwyd yn cael ei gwella.

Bydd yr arian gan Lywodraeth Cymru’n mynd tuag at wella Wi-Fi a gosod mannau gwefru ar gyfer offer trydanol hefyd.

Mae’r arian hwn yn ychwanegol at gynlluniau mae Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol wedi’u cyflwyno’n barod i baratoi ar gyfer y gaeaf.

Fel rhan o’r cynlluniau hynny, bydd 100 o glinigwyr newydd yn cael eu recriwtio a bydd rotas staff yn cael eu newid er mwyn gwella amseroedd ymateb ambiwlans.

“Dyw’r un ohonon ni eisiau mynd i’r ysbyty,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Ond, os bydd angen inni fynd, fe ddylai’r buddsoddiad ychwanegol hwn i wella ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys wneud y profiad ychydig yn haws.”

Cynllun y gaeaf

Daw’r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun ar gyfer firysau anadlol tymhorol, gan gynnwys Covid-19, dros yr hydref a’r gaeaf.

Mae’r cynllun yn nodi sut mae’r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal yn paratoi cyn y cynnydd disgwyliedig yn y galw dros y misoedd nesaf.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys:

  • Diogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed rhag salwch difrifol
  • Gweithredu’n gyflym i ymateb i amgylchiadau sy’n newid, gan gynnwys ail-gyflwyno cyngor cryfach, fel gwisgo gorchuddion wyneb a phrofion Covid ychwanegol, os bydd nifer yr achosion yn codi’n sydyn
  • Gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd ati i gadw golwg ar firysau heintus
  • Diogelu’r rheini sy’n wynebu’r risg fwyaf drwy gynnig brechiadau’r ffliw a Covid-19 yn rhad ac am ddim.

Mae rhagdybiaethau cynllunio ar gyfer y gaeaf hwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd lefelau’r ffliw a firysau anadlol eraill yn uwch y gaeaf hwn, o’i gymharu â’r ddwy flynedd ddiwethaf.

‘Pandemig heb ddiflannu’

Dywedodd Eluned Morgan fod y gaeaf wastad yn gyfnod heriol a phrysur i’r gwasanaethau iechyd, ond eu bod nhw’n cynllunio drwy gydol y flwyddyn i sicrhau eu bod nhw mor barod â phosib.

“Yn anffodus, nid yw’r pandemig wedi diflannu a dros y pythefnos diwethaf mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi cael eu heintio yn y gymuned, yn ogystal â’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty,” meddai.

“Brechu yw’r ffordd orau o hyd o amddiffyn ein hunain yn erbyn y coronafeirws a’r ffliw.

“Mae degau o filoedd o bobl yn cael eu brechu bob wythnos a dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.

“Gallwn ni gymryd ychydig o gamau syml i’n helpu i gadw’n iach y gaeaf hwn – fel golchi dwylo’n aml, gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do lle y mae llawer o bobl yn bresennol ac aros gartref os byddwn ni’n sâl.

“Os ydyn ni’n gymwys, gallwn ni hefyd gael ein pigiad ffliw blynyddol a’r pigiad atgyfnerthu COVID-19.”

‘Datgan bwriad nid cynllun’

Wrth ymateb i’r cynllun, dywed y Ceidwadwyr Cymreig mai “datganiad o fwriad” sydd yma yn hytrach na “chynllun”.

“Er bod yr hyn sydd wedi cael ei amlinellu yn cynnwys camau cadarnhaol, mae’n rhy hwyr o lawer ar gyfer Gwasanaeth Iechyd sydd wedi bod dan bwysau ers tro,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.

“Yn ei chynhadledd i’r wasg, dywedodd y Gweinidog Iechyd nad yw Covid wedi mynd, ond dywedodd ei rhagflaenydd y byddai’n ‘wirion’ cyhoeddi cynllun adfer cyn i’r pandemig ddod i ben – mae’r diffyg paratoi diofal hwn wedi gadael ein gwasanaeth iechyd mewn llanast, gyda staff a chleifion yn talu’r pris.

“Mae 60,000 o bobol yn aros ers dros ddwy flynedd am driniaethau yng Nghymru, er bod y ffigwr yn ddim yn Lloegr a’r Alban.

“Mae’r Gweinidog yn byw mewn byd ffantasi os ydy hi’n meddwl y medrith hi gael gwared ar amseroedd aros sy’n hirach na blwyddyn yn fuan pan mae un ym mhob pedwar claf yn wynebu’r fath oedi diolch i gamreolaeth Llafur.”