Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, yn dweud bod ganddo fe “deimlad ofnadwy o ddrwgargoel” ynghylch y rhyfel yn Wcráin ar ôl i Rwsia saethu taflegrau atyn nhw.

Yn dilyn yr ymosodiadau diweddaraf, mae disgwyl i Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd Wcráin, ofyn am gymorth gwledydd y G7 i roi arfau awyr iddyn nhw.

Cafodd rhannau o’r wlad eu gadael heb drydan yn dilyn yr ymosodiadau o’r awyr, a chafodd 19 o bobol eu lladd ar draws y wlad yn yr ymosodiadau mwyaf o’r awyr ers yr Ail Ryfel Byd.

Mae Rwsia dan bwysau yn y rhyfel ar ôl iddyn nhw golli tir yn sylweddol ers dechrau mis Medi, ac fe wnaeth Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, orchymyn yr ymosodiadau fel ffordd o ddial am ffrwydrad oedd wedi dinistrio pont oedd yn cysylltu Rwsia â’r Crimea.

Fe darodd y taflegrau nifer o dargedau, gan gynnwys gorsafoedd pŵer, ond fe laniodd eraill mewn parciau, atyniadau twristaidd a strydoedd prysur yn ystod oriau brig.

Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, eisoes wedi addo rhoi cymorth i Wcráin, wrth i Volodymyr Zelenskyy ddweud mai ei “brif flaenoriaeth” yw systemau amddiffyn rhag ymosodiadau o’r awyr.

Mae rhagor o ymosodiadau wedi’u cynnal heddiw (dydd Mawrth, Hydref 11) yn ninas Zaporizhzhia sydd dan reolaeth Wcráin yn ne-ddwyrain y wlad, gydag un person wedi’i ladd.

Mae fflatiau wedi’u taro yno o leiaf dair gwaith dros yr wythnos ddiwethaf, gan ladd pobol gyffredin wrth iddyn nhw gysgu, er bod Mosgo yn gwadu eu bod nhw wedi targedu’r adeiladau preswyl yn fwriadol.

G7 a Belarws

Yn y cyfamser, mae disgwyl i arweinwyr gwledydd y G7 rybuddio Belarws rhag cefnogi Rwsia ymhellach yn y rhyfel.

Daw hyn ar ôl i lywodraeth y wlad ddweud eu bod nhw am anfon milwyr i gynorthwyo lluoedd Rwsia ger y ffin ag Wcráin yn sgil yr hyn maen nhw’n ei ddisgrifio fel “bygythiad” o du Kyiv a’r gorllewin.

Mae milwyr o Rwsia wedi sefydlu canolfannau yn Belarws ers dechrau’r rhyfel, ond dydy milwyr Belarws ddim wedi eu cynorthwyo nhw hyd yn hyn.

Mae Ffrainc hefyd wedi ategu’r posibilrwydd o roi rhybudd i Belarws, ond mae Rwsia’n cyhuddo gwledydd y gorllewin o ymyrryd yn ormodol drwy gefnogi Wcráin.

‘Drwgargoel’

“Mae gen i deimlad ofnadwy o ddrwgargoel ynghylch Rwsia ac Wcráin,” meddai Chris Bryant ar Twitter.

“Ac rwy’n ofni ein bod ni yn y gorllewin wedi bod yn llawer rhy hunanfoddhaus jyst oherwydd bod Wcráin yn ymddangos fel pe bai’n bell iawn i ffwrdd.”