Mae Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn ystyried a ddylid rhoi’r hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth.
Roedd y refferendwm yn 2014 yn aflwyddiannus i’r rhai fu’n ymgyrchu tros adael y Deyrnas Unedig, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynnu droeon na fydd un arall yn cael ei gynnal, safbwynt sydd wedi’i ategu gan Liz Truss, y Prif Weinidog yn Downing Street ar hyn o bryd.
Ond dros y ddau ddiwrnod nesaf (dydd Mawrth, Hydref 11 a dydd Mercher, Hydref 12), bydd barnwyr yn Llundain yn ystyried a oes gan Holyrood yr hawl i basio deddfwriaeth er mwyn i bleidlais gael ei chynnal.
Ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn glir pryd fyddan nhw’n cyhoeddi eu dyfarniad, ond mae Llywodraeth yr Alban yn dweud eu bod nhw’n awyddus i gynnal refferendwm ar Hydref 19 y flwyddyn nesaf.
Daw hyn er i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud bod refferendwm annibyniaeth y tu allan i rymoedd Senedd yr Alban ac roedd yn rhaid trosglwyddo pwerau o Lundain i Gaeredin ar gyfer y refferendwm diwethaf.
‘Parchu dyfarniad’
Wrth annerch cynhadledd yr SNP yr wythnos hon, dywedodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, ei bod hi’n barod i “barchu dyfarniad” y Goruchaf Lys pe na bai modd cynnal refferendwm arall.
Ond pe bai hynny’n digwydd, meddai, byddai’r mater yn cael ei gyflwyno i bobol yr Alban mewn etholiad neu byddai’n rhaid “rhoi’r gorau i ddemocratiaeth yr Alban”.