Mae gan Lywodraeth Cymru ddiffyg “grym ariannol” i greu polisïau mwy trawsnewidiol neu bolisïau ar raddfa fwy, yn ôl adroddiad newydd.
Dylid diwygio pwerau benthyg Llywodraeth Cymru fel eu bod nhw’n gallu creu polisïau mwy trawsnewidiol, meddai adroddiad newydd y Sefydliad Materion Cymreig.
Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau gweddol gryf a chyllidebau gwerth biliynau, mae’r ymchwil wedi canfod mai gallu cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru i ddechrau prosiectau mawr er mwyn gwella bywydau pobol.
Mae’r adroddiad yn cyfeirio at rai o’r heriau brys sy’n wynebu Cymru fel newid hinsawdd, argyfwng costau byw, system dai ddiffygiol, ac effaith y pandemig, ac yn nodi bod y rhain yn broblemau mawr sydd angen datrysiadau’r un mor fawr.
Yn ôl yr adroddiad, Fiscal Firepower and Effective Policy-Making, mae gan Lywodraeth Cymru ddiffyg “grym ariannol”, ac mae rhan fawr o’u cyllideb yn gorfod mynd tuag at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Cymharol fechan ydy’r swm o arian sydd dros ben ar ôl hynny er mwyn gallu darparu prosiectau mawr a allai newid trywydd cymdeithas ac economi Cymru.
Cyfyngu mewn meysydd datganoledig
All nifer o gynigion polisi Llywodraeth Cymru ond mynd mor bell ag y mae’r cyllid yn caniatáu, medd yr adroddiad.
Yn sgil hynny, mae Llywodraeth Cymru’n cael eu cyfyngu yn eu gallu i greu polisi mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, fel tai a thrafnidiaeth, hyd yn oed.
Gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig fenthyg arian ar ran Lloegr er mwyn mynd i’r afael â meysydd sydd wedi’u datganoli.
Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru gap benthyca llym, sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw obeithio bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu eu gwariant mewn meysydd datganoledig er mwyn rhyddhau’r arian hwnnw i Gymru hefyd.
Daw 82% o gyllideb Llywodraeth Cymru drwy grant sy’n cael ei benderfynu ar sail Fformiwla Barnett yn unol â gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Lloegr.
Mae’r adroddiad yn canfod hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gorfod defnyddio ffyrdd drytach o fenthyg arian.
Mae argymhellion y Sefydliad Materion Cymreig yn cynnwys:
- Cefnogi galwadau Llywodraeth Cymru am bwerau benthyca darbodus;
- Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig dderbyn diffygion fframwaith ariannol Llywodraeth Cymru a derbyn achos Llywodraeth Cymru dros gael pwerau benthyca darbodus drwy’r Gronfa Benthyciadau Genedlaethol. Byddai cynyddu’r cap presennol ar fenthyca yn gwella’r fframwaith, ond fyddai hynny ddim cystal â rhoi pwerau benthyca darbodus i Lywodraeth Cymru;
- Dylai unrhyw ddiwygiadau i’r fframwaith ariannol drio cynyddu’r hyblygrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru o ran benthyca ac arian wrth gefn;
- Dylai gwneuthurwyr polisi, academyddion a’r Comisiwn Cyfansoddiadol roi ystyriaeth amlwg i ddiffyg “grym ariannol” Llywodraeth Cymru.
‘Cyfyngu’n sylweddol’
Dywed Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, fod eu hadroddiad yn canfod fod gallu Llywodraeth Cymru i weithredu’n cael ei “gyfyngu’n sylweddol” gan ei setliad ariannol, hyd yn oed mewn meysydd datganoledig.
“Rydyn ni’n galw am ddadl aeddfetach ynghylch effaith ‘grym ariannol’ ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu polisïau mewn meysydd datganoli, er mwyn sicrhau bod ystod eang o opsiynau polisi ar gael i bleidleiswyr yng Nghymru.
“Rydyn ni hefyd yn galw am ddiwygio pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ei bod yn gallu blaenoriaethu’r ffyrdd rhatach o fenthyca, yn hytrach na chael cap ar ffyrdd rhatach o fenthyca, a chael eu gwthio tuag at opsiynau drytach.”