Mae gweinidogion newydd Llywodraeth Catalwnia wedi cael eu penodi, wrth i blaid Esquerra Republicana lywodraethu ar eu pennau eu hunain am y tro cyntaf ers 1934.
Roedd Esquerra yn rhan o glymblaid gyda Junts per Catalunya, ond chwalodd y llywodraeth yn sgil anghydfod ac mae Esquerra bellach yn blaid lywodraeth.
Mae eu gweinidogion cyntaf wedi’u penodi ar drothwy eu cyfarfod cyntaf fel Cabinet heddiw (dydd Mawrth, Hydref 11).
Mae Natàlia Mas (Gweinidog yr Economi), Meritxell Serret (Gweinidog Tramor a’r Undeb Ewropeaidd), Juli Fernández (Gweinidog y Diriogaeth), Manel Balcells (Gweinidog Iechyd); Gemma Ubasart (Gweinidog Cyfiawnder a Hawliau), Carles Campuzano (Gweinidog Hawliau Cymdeithasol) a Joaquim Nadal (Gweinidog Prifysgolion ac Ymchwil) eisoes wedi’u penodi’n swyddogol mewn seremoni ym mhencadlys y llywodraeth.
Yn ystod y seremoni, pwysleisiodd yr Arlywydd Pere Aragonès bwysigrwydd y Cabinet newydd wrth iddyn nhw “wasanaethu’r gymdeithas” ar “adeg anodd” oherwydd yr argyfwng economaidd a chymdeithasol, ond hefyd yn sgil y berthynas rhwng Catalwnia a Sbaen.
Fe soniodd e hefyd am “werth ychwanegol” y Cabinet newydd o ganlyniad i’r aelodau newydd fydd yn gweithio tuag at sicrhau annibyniaeth, wrth iddyn nhw barhau’n benderfynol o gynnal refferendwm fydd yn rhoi’r dyfodol yn nwylo’r bobol.
Y 1930au a heriau heddiw
Yn 1934, pan oedd Esquerra wrth y llyw ddiwethaf, cafodd Lluís Companys ei benodi’n Arlywydd ar Ionawr 1 yn dilyn marwolaeth Francesc Macià.
Bu farw Macià ar Ddydd Nadolig 1933.
Y tro hwn, yn wahanol i lywodraeth fwyafrifol y 1930au, lleiafrif o 33 sedd allan o 135 sydd gan y llywodraeth newydd ac maen nhw’n wynebu’r her o gyflwyno’r gyllideb ar gyfer 2023.
Jaume Giró, yn cyn-Weinidog Economi, oedd â’r cyfrifoldeb o baratoi’r ffordd ar gyfer y gyllideb, ac fe wnaeth e ddyrannu’r arian i bob adran ar Fedi 28.
Ond bydd yn rhaid i’r llywodraeth newydd gynnal trafodaethau er mwyn cael cymeradwyaeth i’r gyllideb, er bod Junts per Catalunya yn mynnu bod y gyllideb newydd eisoes yn ei lle.
Ac o ran yr arlywydd, yn ôl y cytundeb blaenorol roedd gan Esquerra swydd yr arlywydd, tra bod swydd llefarydd y siambr yn nwylo Junts per Catalunya.
Ond mae’r llefarydd presennol, Laura Borràs, wedi’i diarddel ers mis Gorffennaf tros gyhuddiadau o lygredd.
Alba Vergès yw deilydd presennol y swydd, ond mae Junts yn mynnu bod rhaid iddyn nhw gael cynnig y swydd.
Gwrthwynebiad
Ar y cyfan, nid pawb sy’n fodlon derbyn y llywodraeth newydd, gyda Junts yn mynnu ei bod hi’n “wleidyddol ac yn ddemocrataidd annilys”.
Mae Laura Borràs yn mynnu bod rhaid i’r drefn bresennol gael sêl bendith y senedd neu’r cyhoedd mewn etholiad cyffredinol.
Yn ôl Pere Aragonès, bydd y Cabinet newydd yn “cynrychioli consensws 80% o drigolion”, gyda phedwar ym mhob pump o blaid refferendwm annibyniaeth.