Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bwriad i gynyddu nifer y bobol sy’n pleidleisio mewn etholiadau gyda chyfres o gynigion sy’n cynnwys cofrestru pobol yn awtomatig i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol.
Yn ôl Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, y nod yw cael gwared ar rwystrau rhag pleidleisio.
Mae’n cyd-fynd â dechrau’r ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth newydd i foderneiddio prosesau gweinyddu etholiadol a diwygio etholiadol ehangach.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobol gofrestru i bleidleisio, ond o dan y cynigion newydd, byddai unrhyw unigolyn sy’n gymwys i bleidleisio yn cael ei ychwanegu at y gofrestr etholiadol yn awtomatig gan ei awdurdod lleol.
O ganlyniad, bydd pleidleisio’n symlach, yn enwedig i bobol ifanc a phobol sydd wedi symud i fyw yng Nghymru o wlad arall.
Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol i gynnal cyfres o gynlluniau peilot yn canolbwyntio ar y ffordd orau o gasglu data a defnyddio’r data sydd eisoes ganddyn nhw i gefnogi’r gwaith o gofrestru etholwyr yn awtomatig.
Byddan nhw’n gwahodd awdurdodau lleol i gymryd rhan mewn prosiectau peilot.
Mae hefyd yn ceisio barn pobol ar y ffordd orau o gynyddu nifer y myfyrwyr a phobol ifanc sy’n cofrestru – pobol sydd, yn ôl eu cyfran, â chyfraddau cofrestru a chyfranogi is.
Ymhlith y meysydd eraill sy’n cael eu hystyried mae pa mor hawdd yw cael gwybodaeth am bleidiau ac ymgeiswyr, yr offer sydd ar gael i helpu pobol ag anableddau i bleidleisio, a digideiddio etholiadau yng Nghymru.
System etholiadol i’r 21ain ganrif
“Mae hwn yn gam arall tuag at sicrhau bod mwy o bobol yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru,” meddai Mick Antoniw.
“Rydym am sicrhau bod bwrw pleidlais mor hawdd â phosibl, a bod pobol yn cael cyfle i chwarae rhan lawn yn ein democratiaeth.
“Rydym hefyd yn awyddus i greu strwythurau gwleidyddol sy’n cynrychioli’r bobol y maent yn eu gwasanaethu’n well.
“Rwy’n falch o ddweud, ers inni gymryd cyfrifoldeb am etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd yn 2017, ein bod wedi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ac wedi rhoi’r hawl i bleidleisio i wladolion tramor sy’n gymwys.
“Fel rhan o’r gwaith o adeiladu system etholiadol i’r 21ain ganrif, mae’n amser nawr i gyflymu ein gweledigaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer diwygio etholiadol cyn yr etholiadau datganoledig a’r etholiadau lleol mawr nesaf yn 2026 a 2027.
“Rydym wedi amlinellu amrywiaeth eang o gynigion ynghylch y ffordd orau ymlaen, ac rydym yn annog pobol o bob rhan o gymdeithas i ddweud eu dweud a’n helpu i wireddu ein gweledigaeth.”
Rhesymau “ddim yn glir”
“Dydy hi ddim yn glir pam fod y newidiadau hyn yn angenrheidiol,” meddai Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Cyfansoddiad.
“Mae cofrestru i bleidleisio eisoes yn syml, ac mae miliynau o bobol yn llwyddo i wneud hynny bob blwyddyn heb un fath o broblem.
“Un peth sy’n sicr, bydd unrhyw newidiadau i’r system bleidleisio sydd ond yn berthnasol i rai etholiadau ac nid eraill yn achosi dryswch diangen.
“Gallai cofrestru awtomatig ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol arwain pleidleiswyr i gymryd ar gam eu bod nhw wedi cofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a’u hachosi nhw i golli allan ar bleidleisio.
“Yn waeth fyth, gallai cofrestru pobol sydd yn symud tŷ neu fyfyrwyr yn y brifysgol yn awtomatig gynyddu’r perygl y gallai pobol gael eu cofrestru mewn dau le a phleidleisio ddwywaith.
“Byddai Llywodraeth Cymru’n well pe baen nhw’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r problemau yn ein Gwasanaeth Iechyd a’n system addysg yn hytrach na photsian â’r Cyfansoddiad.”