Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno i adeiladu adeilad newydd ysgol gynradd ar safle newydd yng Nghwm Rhondda.

Mae cais gan Gyngor Rhondda Cynon Taf wedi’i wneud ar gyfer safle newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog.

Byddai’r safle newydd ar gyfer 270 o ddisgyblion, gan gynnwys dosbarth meithrin â lle i 30 o ddisgyblion, a byddai’n cael ei osod ar safle hen ffatri Chubb ar yr ystad ddiwydiannol yn lle safle’r hen ysgol yn Nheras Darran.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys ardaloedd chwarae meddwl a chaled, parcio ar y safle i staff, mannau gollwng a chasglu ac ardaloedd ar gyfer dylifro nwyddau a chasglu sbwriel.

Dywedodd y datganiad cynllunio a gafodd ei gyflwyno gyda’r cais fod adeiladau’r ysgol ar y safle presennol “mewn cyflwr gwael iawn (categori D) ac mae angen buddsoddiad sylweddol arnyn nhw gyda chostau cynnal a chadw wedi cronni i oddeutu £1m”.

“O ganlyniad, dydy adeilad presennol yr ysgol ddim bellach yn addas ar gyfer ei bwrpas, ac o fethu â bodloni safonau cyfoes ysgolion yr 21ain ganrif, dydy’r safle ddim yn addas ar gyfer ei ailddatblygu.”

Diffyg lle

Dywedir bod lle cyfyng i chwarae yn yr awyr agored ar y safle presennol, ac nad oes lle i barcio ar y safle, a bod goleddf y tir yn lleihau’r ardal mae modd ei ddefnyddio ar gyfer chwarae sydd ei angen er mwyn bodloni’r safonau cyfoes.

Fe wnaeth arolwg nodi addasrwydd yr adeiladau yn Nheras Darran fel categori C, sy’n golygu nad yw’r ysgol bresennol “yn hollol addas at bwrpas cyflwyno’r cwricwlwm addysg o ganlyniad i ddiffyg cyfleusterau ar y safle”, meddai’r datganiad cynllunio.

Fe gyfeiriodd at adroddiad Estyn yr ysgol yn 2019 oedd wedi nodi “nad yw ardaloedd allanol wedi’u datblygu i’r un safon” ag ardaloedd dysgu mewnol sy’n ddeniadol ac yn hybu dysgu’n llwyddiannus, “ac mae’r defnydd ohonyn nhw’n gyfyng iawn”.

Dywed y datganiad fod safle’r cais yn wag ar hyn o bryd heb fynediad cyhoeddus ac mae’r adeiladau diwydiannol blaenorol wedi cael eu dymchwel.

O blith yr 11 safle a gafodd eu hadolygu fel rhan o’r broses ddethol, mae naw wedi cael eu dymchwel neu eu gwneud yn anaddas yn dilyn y difrod gafodd ei achosi gan Storm Dennis fis Chwefror 2020, meddai’r datganiad.

Dywed fod safle’r cais yn gyfuniad o dir llwyd datblygiedig, wedi’i leoli o fewn y ffiniau ac o fewn dalgylch yr ysgol.

Dywed y datganiad cynllunio fod y safle’n wag ers dros 17 o flynyddoedd a bod yr adeiladau gwag wedi cael eu dymchwel.

Ychwanega fod yna safleoedd diwydiannol gwag eraill gerllaw sy’n dangos “y galw isel am ddefnydd cyflogaeth yn y lleoliad penodol hwn”.

“Bydd adleoli’r ysgol i’r safle datblygu arfaethedig yn galluogi gwell darpariaeth addysg, gyda’r safle mwy o faint yn cynnig y cyfle i gynnig cyfleusterau addysg dan do ac awyr agored o safon uchel,” meddai’r datganiad cynllunio.

“Yn ogystal â darparu gofodau awyr agored newydd i ddisgyblion gael dysgu a mwynhau, bydd adleoli’r ysgol hefyd yn arwain at ardal gollwng benodol ar y safle, nad yw ar gael ar hyn o bryd, sy’n arwain at drafferthion yn ymwneud â thagfeydd lleol.”

Mae’r cynnig yn cynnwys 30 o lefydd parcio ar gyfer staff, gan gynnwys dau le parcio hygyrch a thri ar gyfer ymwelwyr i’r gogledd o brif adeilad yr ysgol.

Byddai 40 o lefydd parcio ychwanegol i’r dwyrain o’r prif adeilad, wedi’u neilltuo ar gyfer rhieni yn ystod amserau gollwng a chasglu.

Byddai 24 o lefydd parcio beiciau hefyd, a 12 lle ar gyfer parcio sgwter.