Mae Cyngor Cenedlaethol undeb athrawon UCAC wedi penderfynu cynnal pleidlais i benderfynu a fydd aelodau’n gweithredu’n ddiwydiannol.

Fe ddaw yn dilyn cynnig codiad cyflog o 5% gan Lywodraeth Cymru, ac yn sgil llwyth gwaith cynyddol athrawon.

Mae’r undeb yn galw am godiad cyflog nad yw’n is na’r gyfradd chwyddiant, ac amodau gwaith teg.

“Rydym yn siomedig iawn nad yw cynnig Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r gyfradd chwyddiant bresennol na chwaith yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein hathrawon,” meddai Ioan Rhys Jones, ysgrifennydd cyffredinol UCAC.

“Ar hyn o bryd, mae’r proffesiwn yn wynebu amodau gwaith sy’n fwyfwy heriol a hynny law yn llaw gyda chostau byw cynyddol.

“Rydym yn wynebu heriau dirfawr o ran cadw athrawon yn y proffesiwn yn ogystal â sialensau wrth geisio recriwtio aelodau newydd.

“Nid yw gweithredu’n ddiwydiannol yn benderfyniad hawdd i’n hathrawon sy’n poeni am les a llwyddiant eu disgyblion.

“Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod ein plant a’n pobol ifanc yn cael y safon addysg orau, mae’n bwysig bod athrawon yn ennill cyflog teg a bod yr amodau gwaith yn rhai priodol.”