Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, a’r Aelod Dynodedig Cefin Campbell wedi cyhoeddi buddsoddiad o £11m er mwyn cryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a chan adeiladu ar brofiad a’r gwerthusiad o raglen gynharach Arfor a gafodd ei lansio yn 2019, bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i bedwar awdurdod lleol, sef Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Prif amcan Arfor 2 yw cefnogi’r cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.

Bydd hefyd yn helpu o ran y canlynol:

  • Creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd (o dan 35 oed) aros yn eu cymunedau cynhenid neu ddychwelyd iddynt – gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy gymryd rhan mewn menter neu ddatblygu gyrfa.
  • Creu cymunedau mentrus mewn ardaloedd Cymraeg – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n ceisio cadw a chynyddu cyfoeth lleol drwy fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
  • Manteisio i’r eithaf ar weithgarwch drwy gydweithio – er mwyn sicrhau bod arferion da a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu a bod gwaith monitro yn mynd rhagddo i sicrhau gwelliant parhaus.
  • Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg – drwy gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg a’i hamlygrwydd, gan annog ymdeimlad o le a theyrngarwch lleol.

Mae’r cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Hydref 10) yn amlinellu bod cytundeb wedi’i wneud gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol ar raglen o weithgarwch a fydd yn helpu i gefnogi ein cymunedau Cymraeg.

Bydd gwaith nawr yn parhau ar fanylion yr ymyriadau arfaethedig.

Bydd rhaglen Arfor 2 hefyd yn ceisio hyrwyddo dysgu a rhannu arferion da ac ehangu ein dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng yr economi a’r iaith a chanfod yr ymyriadau hynny all wneud gwahaniaeth.

‘Potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol’

“Rwy’n falch ein bod, drwy gydweithio gydag awdurdodau lleol a chyda Phlaid Cymru, wedi dod i gytundeb ar raglen strategol o ymyriadau ar gyfer Arfor 2 sydd â photensial i wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein cadarnleoedd Cymraeg, gan ddatblygu ein huchelgeisiau o ledaenu ffyniant economaidd,” meddai Vaughan Gething.

“Drwy weithio gyda’n partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol, rydym am gefnogi cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.”

“Drwy gydweithio rydym yn adeiladu ar lwyddiannau cynllun peilot Arfor sy’n anelu at gefnogi a thyfu’r economi leol a’r Gymraeg gyda’i gilydd,” meddai Cefin Campbell.

“Mae’r buddsoddiad gwerth £11m yn y cynllun hwn yn hwb uniongyrchol i economïau’r gorllewin, a fydd yn hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes ymhellach ac yn helpu i warchod y Gymraeg.

“Rydym am sicrhau bod cymunedau yn yr ardaloedd hyn yn gallu ffynnu a bod pobol yn gallu aros yn eu cymunedau lleol i weithio neu i dyfu busnes.”

Cyhoeddodd Vaughan Gething a Cefin Campbell y pecyn ariannu newydd ar gyfer Arfor 2 yn ystod ymweliad â Chanolfan S4C, Yr Egin yng Nghaerfyrddin, lle gwnaethon nhw gyfarfod ag entrepreneuriaid lleol.

Un o amcanion sefydlu’r Egin oedd bod yn gatalydd ar gyfer hybu a chryfhau’r Gymraeg a’r economi yn Sir Gaerfyrddin.

Ers agor, mae’r Egin wedi dod yn gymuned brysur o greadigrwydd lle mae ffocws ar rannu, cydweithio a datblygu busnes.

Cafodd y ddau flas ar fêl Sir Gaerfyrddin gan gwmni Mêl Gwenyn Gruffydd, busnes o Sir Gaerfyrddin wnaeth elwa ar gam cyntaf Arfor.

“Mae cael cymorth drwy Gynllun Arfor wedi golygu bod busnes mêl bach fel ein un ni wedi cael cyfle i ffynnu mewn cymuned Gymraeg wledig,” meddai Gruffydd, cyd-sylfaenydd Gwenyn Gruffydd Cyf.

“Mae wedi caniatáu i fi a fy ngwraig weithio’n llawn amser yn y busnes ac wedi ein galluogi i greu swydd Gymraeg arall o fewn y busnes hefyd.

“Mae wedi golygu ein bod wedi gallu aros yng nghefn gwlad y Gorllewin, adeiladu busnes, creu swyddi a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg drwy ein gwaith.

“Mae bod yn rhan o Arfor wedi ein galluogi fel busnes i gyfrannu at y Gymraeg drwy roi sgyrsiau a chyflwyniadau i grwpiau lleol a’r gymuned hefyd.”

‘Crisialu’r berthynas rhwng y Gymraeg a’r economi’

“Rydym yn falch y bydd busnesau a chymunedau yn Sir Gaerfyrddin yn gallu manteisio ar gymorth o raglen Arfor a fydd yn darparu cyfleoedd economaidd ar draws y sir yn ogystal â chefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y Gymraeg,” meddai Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Gâr.

“Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan sefydliadau a busnesau lleol am eu cysyniadau cyffrous i feithrin a chynnal ethos y rhaglen Arfor newydd.

“Drwy gydweithio gyda phartneriaid Arfor ledled y Gorllewin, mae gennym gyfle i gyflwyno rhaglen o ymyriadau arloesol a fydd yn crisialu’r berthynas rhwng y Gymraeg a’r economi.”

Yn ôl Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, “mae ein busnesau a chymunedau yn wynebu llawer o anawsterau ar hyn o bryd ac mae’n dda gallu cyhoeddi cynllun a chyllid newydd sylweddol fel hyn.”

“Mae Arfor eisoes wedi dangos ei werth yn ystod cymal cyntaf y cynllun,” meddai.

“Ar Ynys Môn, llwyddwyd i gynorthwyo 55 o fusnesau lleol drwy fuddsoddi tua £400,000.

“Bu i’r arian yma ddiogelu neu greu 80 o swyddi, a hybu defnydd y Gymraeg ymysg 48 o fusnesau.

“Rwyf yn croesawu’r cyhoeddiad yma ac yn edrych ymlaen at weld ein heconomi leol yn parhau i elwa o weithredu’r rhaglen bwysig yma.”

‘Bregus, ond bywiog a chyffrous’

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw ac yn edrych ymlaen yn fawr at gryfhau’r cysylltiadau rydym wedi eu meithrin drwy brosiect ARFOR,” meddai Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Sir Gwynedd.

“Efallai bod ein cymunedau yn ymddangos yn fregus mewn rhai ffyrdd, ond ar yr un pryd maent yn lleoedd bywiog a chyffrous sydd â llawer i’w gynnig.

“Rwy’n hyderus y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i gynyddu cyfleoedd ac felly annog ein pobol ifanc i aros ac adeiladu eu bywydau yma, gan ddiogelu ein hiaith, ein diwylliant a’n ffordd o fyw ymhellach.”

Mae Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, hefyd wedi croesawu’r buddsoddiad “er mwyn parhau â’r gwaith o gefnogi twf ecoomaidd, a chefnogi’r Gymraeg yng nghadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru”.

“Mae pobol ifanc ac economi Ceredigion eisoes wedi elwa o gefnogaeth o dan gynllun gwrieiddiol Arfor, a mi fydd y buddsoddiad pellach yma’n hwb i’n hymdrechion i wireddu twf economaidd a chyfleoedd i bobol ifanc fanteisio ar y cyfleoedd sy’n bodoli i feithrin gyrfaeodd llwyddiannus yma yng Ngheredigion,” meddai.