Mae Hywel Williams, Aelod SeneddolPlaid Cymru dros Arfon, a Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru yn lleisio pryderon am gynlluniau i gau eu canolfan ym Maes Awyr Caernarfon a chanoli y gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Yn ddiweddar, datgelodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n gweithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac EMRTS, fwriad i ad-drefnu eu gwasanaethau cenedlaethol a allai arwain at gau safleoedd Caernarfon a’r Trallwng a sefydlu un lleoliad canolog yn y gogledd-orllewin.
Mae galwadau Hywel Williams a Sian Gwenllian wedi’u hadleisio gan Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros yr un etholaeth, yn ogystal â Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn.
Mae’r gwleidyddion yn cwestiynu sut y bydd y trefniant newydd arfaethedig yma yn cryfhau gwasanaethau meddygol brys diogel yng Ngwynedd wledig, lle mae pobol yn byw gryn bellter o adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd.
Ymunodd y gwleidyddion Plaid Cymru ag ymgyrchwyr ym Maes Awyr Caernarfon, Dinas Dinlle ddydd Sadwrn mewn sioe o undod i alw i gadw’r gwasanaeth yng Nghaernarfon.
Ymhlith yr ymgyrchwyr oedd Cian Wyn Williams o Borthmadog a gafodd ei achub gan yr Ambiwlans Awyr yn dilyn damwain ym Mhorthmadog ddeng mlynedd yn ol.
‘Gofid sylweddol’
“Mae nifer o’n hetholwyr yn Arfon wedi cysylltu â ni, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau codi arian yr Ambiwlans Awyr yn lleol, yn pryderu am ad-drefnu arfaethedig y gwasanaeth,” meddai Hywel Williams a Siân Gwenllian.
“Ein dealltwriaeth ni yw mai’r cynnig yw cau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng a sefydlu un ganolfan newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru, tra’n cynnal y canolfannau presennol yn ne Cymru fel ag y maent.
“Mae’r cynnig hwn wedi achosi gofid sylweddol yn ardal Arfon, gydag awgrymiadau mai ymarfer torri costau yw’r cynlluniau yn bennaf a fydd yn arwain at wasanaeth arall yn symud i’r dwyrain, ar draul cymunedau gwledig Gwynedd ac Ynys Môn.
“Mae yna bryderon y byddai cau’r ganolfan yng Nghaernarfon yn arwain at oedi mewn amseroedd ymateb gan y byddai angen i’r hofrennydd deithio o ymhellach i ffwrdd gyda pryderon am yr angen i’w llenwi a thannwydd yn fwy aml.
“Mae pryderon hirsefydlog eisoes am amseroedd ymateb Ambiwlans Cymru. Byddai cau canolfan Caernarfon ond yn ychwanegu at bryderon am fylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer gogledd orllewin Cymru.
“Mae’n rhesymol tybio, os yw’r Ambiwlans Awyr wedi’i leoli mewn ardal â phoblogaeth uwch, a chyda’r A55 ar y stepen drws, bydd yn cael ei dynnu at fynychu digwyddiadau a oedd gynt dan law Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac felly’n mynychu mwy o ddigwyddiadau bob blwyddyn.’
“Mae pryder bod targedau ar gyfer nifer y digwyddiadau a fynychir bob blwyddyn yn cael eu blaenoriaethu dros y math o ddigwyddiadau, er enghraifft digwyddiadau mewn ardaloedd anghysbell, gwledig gyda mynediad anodd ac amseroedd teithio hir i ysbytai.
“Byddai hefyd yn ddefnyddiol gwybod a oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i effaith y cynigion hyn ar weithgareddau codi arian yn lleol, a’r gymuned.
“Mae’r Ambiwlans Awyr wedi dod yn rhan annatod o fywyd yn Arfon. Mae perygl y bydd cau’r ganolfan yn tanseilio’r ewyllys da hwn.
“Mae pryderon amlwg am ddyfodol y staff sifil a meddygol a gyflogir yn y ganolfan yng Nghaernarfon, gyda llawer ohonynt yn cael eu tynnu i’r ardal oherwydd y cyfle i weithio yn y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr.
“Os bydd safle Caernarfon yn cau, efallai y bydd y bobol hynod hyfforddedig a phrofiadol hyn yn symud i rywle arall – colled enfawr i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lleol.”
Galw am eglurder brys
“Mae’r gwasanaeth hwn yn annwyl i ni i gyd,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae angen eglurder brys ynghylch sut y bydd y trefniant newydd hwn yn diwallu anghenion cymunedau gwledig fel Pen Llŷn a de Meirionnydd, lle mae mynediad amserol at gymorth meddygol brys eisoes yn cael ei beryglu gan y diffyg o ambiwlansys digonol yn yr ardal.
“Mae pryderon, o dan y cynigion newydd, ei bod yn ymddangos nad oes gan rai cymunedau yn rhan fwyaf deheuol Pen Llŷn unrhyw wasanaeth ambiwlans awyr o gwbl.
“Hefyd, mae’n ymddangos nad yw perfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gynnwys yn y broses benderfynu.
“Mae blaenoriaethau lleoli canolog criwiau ambiwlans a cherbydau sydd wedi’u lleoli yn Nwyfor Meirionnydd wedi bod yn destun pryder mawr ers blynyddoedd.
“Mae’n hollbwysig cwestiynu a fydd y trefniant newydd hwn yn gwanhau gwasanaeth brys diogel i ddelio â galwadau iechyd brys yng Ngwynedd wledig.
“Rwyf wedi galw ar reolwyr Ambiwlans Awyr i brofi na fydd y newid arfaethedig hwn yn peryglu argaeledd presennol ac amseroedd ymateb yr ambiwlans awyr i’r cymunedau hynny sydd i bob pwrpas yn ddibynnol ar yr elusen mewn argyfyngau.
“Nid yw’r dystiolaeth honno wedi’i darparu hyd yma, ac, felly, ni allaf gefnogi symud yr hofrenyddion o Ddinas Dinlle.”
Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn “bryderus iawn” am y cynlluniau.
“Mae’r gwasanaeth mae’n ei gynnig yn amhrisiadwy, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu ym mharodrwydd pobol i godi arian – mae’r elusen yn annwyl i ni i gyd.
“Mae’n hanfodol felly i ni graffu’n llawn ar y cynlluniau, a dyna pam yr wyf i, a’m cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, yn gofyn iddo gomisiynu dadansoddiad annibynnol o’r data sy’n sail i gynigion yr elusen.
“Mae angen i ni weld yn union beth yw’r dystiolaeth y tu ôl i’r cynigion.
“Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â’r data, sut mae wedi’i gasglu, ei ddefnyddio a beth mae’n ei olygu mewn sefyllfa ‘byd go iawn.’
“Mae’r Ambiwlans Awyr yn hanfodol yn ein hymateb brys i gymunedau mwyaf gwledig Cymru, a’r ofn amlwg yw y bydd cynlluniau i ganoli gwasanaethau – yn Rhuddlan efallai – yn arafu’r ymateb i’r ardaloedd pellaf ac anoddaf eu cyrraedd megis gogledd Môn, Pen Llyn a gogledd Powys.
“Mae angen sicrwydd arnom na fydd hyn yn wir, ac yn anffodus nid yw wedi’i ddarparu eto.”
Elusen “hollbwysig i’n cymunedau”
“Rwyf am gofnodi, yn gyntaf oll, fy niolch diffuant i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru am eu gwaith yn achub bywydau ar draws fy etholaeth ac yn wir ar draws Cymru gyfan,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Maent yn elusen sydd wedi bod yn hollbwysig i’n cymunedau, ac mae ein cymunedau’n codi miloedd o bunnoedd y flwyddyn fel arwydd o’u diolch.
“Ers i’r newyddion dorri bod Ambiwlans Awyr Cymru yn bwriadu canoli eu gwasanaethau, mae llawer o’m hetholwyr wedi cysylltu i fynegi eu pryderon am yr effaith y byddai’r ailstrwythuro hwn yn ei chael ar gymunedau gwledig ac anghysbell yng nghanolbarth a gogledd Cymru.
“Os yw Ambiwlans Awyr Cymru am gael ei ganoli yn Rhuddlan, Sir Ddinbych er enghraifft, gan gau’r safle yn Ninas Dinlle, Caernarfon – yna mae’n debygol y bydd hynny’n ychwanegu 20 munud ychwanegol at daith i ben draw Pen Llŷn neu i Gaergybi neu i dde Meirionnydd.
“Rwyf eisoes wedi gofyn i’r Prif Weinidog gyhoeddi’n llawn y data sy’n cael ei ddefnyddio i ddadlau o blaid y cynnig hwn.
“Data EMRTS yw hwn – partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a’r Ambiwlans Awyr – felly dylai fod ar gael i graffu arno yn ddi-oed.”