Gallai bloc o swyddfeydd ger Tiny Rebel yng Nghasnewydd gael ei droi’n feithrinfa Gymraeg pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Casnewydd.
Mae’r cais cynllunio, sydd wedi’i gyflwyno i’r Cyngor Sir, yn cynnig meithrinfa Gymraeg yng Nghanolfan Fusnes y Wern ar yr ystad ddiwydiannol.
Mae’r datganiad dylunio a mynediad yn disgrifio’r ardal fel un sy’n “ffynnu”, wrth iddi newid o fod at ddefnydd diwydiannol i fod o ddefnydd i’r gymuned.
Gallai hyd at 100 o blant gael lle yn y feithrinfa, ac mae gan yr adeilad le i 50 o blant ar yr un pryd.
Ar hyn o bryd, mae’r safle’n cael ei ddefnyddio gan blant a rhieni, gyda chwmni chwarae plant ar lawr gwaelod yr adeilad.
Yn ôl y datganiad dylunio a mynediad, does “dim hanes o broblemau”.
Bydd y feithrinfa ar agor o 7.30yb tan 6 o’r gloch y nos, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a bydd deg aelod o staff yn cael eu cyflogi.
Pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo, bydd terfyn cyflymder o 5mya a system un ffordd yn cael eu mabwysiadu ar gyfer y sawl sy’n gyrru i’r feithrinfa.
Mae 16 lle i barcio wedi’u cynnig fel rhan o’r cynllun, pump i staff ac 11 i ollwng a chodi pobol, ac mae lle i bump o feiciau hefyd wedi cael eu cynnig.
Mae disgwyl penderfyniad ynghylch y cynlluniau gan adran gynllunio’r Cyngor, oni bai ei fod yn cael ei alw i’r pwyllgor cynllunio.