Mae mwy o bobl nag erioed wedi’u heintio â Covid-19 yng Nghymru yn ôl amcangyfrifon diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn ôl yr amcangyfrifon mae un ym mhob 13 o bobol wedi cael eu heintio â Covid-19 yn yr wythnos hyd at 2 Ebrill – 230,800 o bobol.
Mae hynny yn cyfateb i 7.6% o’r boblogaeth.
O fewn Cymru, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif fod y gyfradd ar ei hisaf yn y canolbarth a’r gorllewin (6.9%), ac ar ei huchaf yn ardal Cwm Taf Morgannwg (8.1%).
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cyfran y bobl hŷn sy’n profi’n bositif wedi cynyddu, tra bo’r tueddiadau’n fwy aneglur ymysg plant oedran ysgol ac oedolion ifanc.
Llai yn yr ysbyty â Covid-19
Fodd bynnag, mae nifer y bobol sydd â Covid-19 mewn ysbytai yn gostwng, gyda 826 claf sydd â’r haint yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd.
Mae’r ffigwr hwn 11% yn llai na’r wythnos ddiwethaf.
14% o’r rheiny sy’n cael eu trin am Covid-19 yn benodol, gyda’r 86% arall yn cael eu trin yn bennaf am broblem arall.
Yn y cyfamser, 17 o gleifion Covid-19 sy’n cael eu trin mewn unedau gofal dwys – sef yr un nifer â’r wythnos ddiwethaf.