Mae ymgeisydd Propel sy’n sefyll yn yr etholiadau lleol yng Nghasnewydd fis nesaf yn byw a gweithio yn Dubai ar hyn o bryd.

Mae Shane Anthony Williams yn sefyll yn ward Parc Tredegar a Maerun, lle mae tair sedd ar gael, er nad oes ganddo fe gyfeiriad yng Nghasnewydd.

Fe fu’n dysgu yn Dubai ers pum mlynedd, ond mae’n bwriadu ymddiswyddo a dychwelyd i Gymru ar Orffennaf 6, ddeufis wedi’r etholiad ar Fai 5.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol er mwyn sefyll yn yr etholiadau lleol:

  • Wedi cofrestru i bleidleisio yn yr ardal
  • Wedi byw yn yr ardal am 12 mis cyfan
  • Wedi rhentu neu fod yn berchen ar dir neu eiddo yn yr ardal am 12 mis cyfan
  • Wedi bod â’u prif swydd yn yr ardal am 12 mis cyfan.

“Dw i’n sefyll dros Propel oherwydd dw i’n credu bod pobol yn chwilio am newid gwleidyddol go iawn,” meddai.

“Ces i fy ngeni a fy magu yn yr ardal, ac ro’n i wedi dysgu yn Ysgol Uwchradd Duffryn am bum mlynedd cyn dysgu dramor.

“Fe wnaeth fy mhrofiadau bywyd o fyw oddi cartref roi mewnwelediad ychwanegol i fi, ac roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned.

“Dw i wedi gweld a phrofi’r materion parhaus mae pobol ifanc a hŷn yn arbennig yn eu hwynebu.”

Propel

Plaid wleidyddol a gafodd ei sefydlu gan Neil McEvoy ym mis Ionawr 2020 yw Propel Cymru.

Cafodd ei wahardd o Blaid Cymru yn 2018, ac mae’n gyn-Aelod o’r Senedd dros ranbarth Canol De Cymru, ac yn sefyll i gael ei ailethol yn ward Tyllgoed yng Nghaerdydd.

“Mae Propel wrth ein boddau o fod yn torri tir newydd yng Nghasnewydd gydag ymgeiswyr o’r fath safon uchel,” meddai.

“Boi dosbarth gweithiol yw Shane, sydd wedi gwneud yn dda.

“Mae ei hiraeth am Gymru wedi ei dynnu’n ôl adref, ac mae e eisiau torchi llewys a bwrw iddi.”

Dyma ymgeiswyr y ward yn llawn:

      • Wayne Anthony Cresswell – Ceidwadwyr Cymreig
      • Rhian Howells – Llafur
      • Celia Jones – Propel: Not Politics As Usual
      • Catherine Jane Linstrum – Plaid Werdd
      • Brian Miles – Ceidwadwyr Cymreig
      • Sarah Louise Nurse – Ceidwadwyr Cymreig
      • Allan Screen – Llafur
      • Trevor Watkins – Llafur
      • Shane Anthony Williams – Propel: Not Politics As Usual

Mae Matthew Evans, arweinydd Ceidwadwyr Cymreig Casnewydd sy’n sefyll yn ward Allt-yr-yn, yn disgrifio’r sefyllfa fel un “ryfedd”.

“Os oes hawl gyda chi sefyll, yna mae hawl gyda chi sefyll,” meddai.

“Bydd yr etholwyr yn penderfynu a ydyn nhw eisau pleidleisio dros rywun nad yw’n byw yng Nghasnewydd neu hyd yn oed yn y wlad.”

Mae’r Blaid Werdd yn dweud y dylai ymgeiswyr “fod yn weladwy drwy gydol y flwyddyn”.

“Mae’r Blaid Werdd yn ymfalchïo mewn dewis ymgeiswyr sydd â record o weithio’n galed yn eu cymunedau,” meddai llefarydd.

“Mae Catherine wedi gweithio gyda thrigolion i ddod â band llydan i Lansanffraid, i ddileu gollwng sbwriel ac achub Lefelau Gwent.

“Bydd pobol Parc Tredegar a Maerun, wrth gwrs, yn penderfynu drostyn nhw eu hunain, ond rydym yn ei chael hi’n anodd gweld sut gellid cyflawni’r lefel hon o gynrychiolaeth o Dubai.”

Mae disgwyl sylw gan Lafur Casnewydd a Phlaid Annibynnol Casnewydd.