Bydd holl blant 12 i 15 oed Cymru yn cael cynnig brechlyn Covid-19 erbyn diwedd hanner tymor mis Hydref.
Daw’r cadarnhad gan Weinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, wrth i’r gwaith o frechu’r grŵp oedran hwn ddechrau o ddifrif heddiw (4 Hydref).
Bydd pob plentyn 12 i 15 oed yn cael eu gwahodd drwy lythyr, a bydd y rhan fwyaf yn cael eu brechu mewn Canolfannau Brechu Torfol.
Er hynny, bydd ysgolion yn cael eu defnyddio hefyd mewn rhai ardaloedd.
Yn ôl Eluned Morgan, mae rhai astudiaethau’n dangos bod lle i gredu bod 1 ymhob 7 plentyn sy’n dal Covid yn datblygu Covid hir, ac mae hi’n pwysleisio mai brechlynnau yw’r ffordd orau o ddiogelu pobol.
“Atal niwed”
Mae rhai plant 12 i 15 oed sydd fwyaf agored i niwed eisoes wedi dechrau cael y brechlyn, ond bydd pob Bwrdd Iechyd wedi dechrau ar y gwaith yn eu hardaloedd erbyn yr wythnos hon.
“Brechlynnau yw’r ffordd orau o hyd o’n diogelu rhag y feirws. Maen nhw’n helpu i atal niwed a lleihau lledaeniad Covid-19,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
“Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod lle i gredu bod 1 o bob 7 plentyn sydd wedi’i heintio â’r feirws yn datblygu Covid Hir.
“Mae’n bwysig bod y plentyn a’r rhiant yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac rydyn ni wedi darparu adnoddau i blant a phobl ifanc a’u rhieni i’w cynorthwyo.
“Rwy’n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod y brechlyn gyda’i gilydd.”
“Gweld y manteision”
Dywedodd Dr Gill Richardson, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Brechlynnau, bod posib “gweld y manteision a geir pan fydd cynifer o bobol â phosib wedi’u brechu”.
“Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, fe wnaeth pedwar Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig argymell brechu plant iach, 12 i 15 mlwydd oed, ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr megis Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant,” meddai Dr Gill Richardson.
“Daethant i’r casgliad bod y manteision iechyd a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), ynghyd â’r manteision ychwanegol o ran llai o darfu ar addysg a lleihau’r effeithiau ar iechyd meddwl, yn golygu y dylid cynnig brechiadau.
“Bydd plant a’u teuluoedd yn cael gwybodaeth gefndirol, yn ogystal â’u gwahoddiad drwy lythyr, fel y gallan nhw benderfynu ar sail tystiolaeth a ydyn nhw am gael y brechlyn ai peidio.”