Bu cynnydd o draean yn nifer y bobol yn marw yn eu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn 2020.

Gwelwyd y cynnydd ar ei fwyaf ymysg marwolaethau wedi eu hachosi gan glefyd y galon, diabetes ac afiechyd Parkinson’s.

Dengys y ffigyrau bod 166,576 wedi marw ar yr aelwyd yn 2020, a gymharu gyda chyfartaledd o 125,255 rhwng 2015 a 2019, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Golyga hyn fod 41,321 o farwolaethau ychwanegol wedi bod yn y cartref y llynedd.

A dim ond 3,221 o’r marwolaethau hyn oedd oherwydd Covid-19, sef 8% o gyfanswm y marwolaethau ychwanegol.

Bu i’r rhan fwyaf o’r rhai fu yn dioddef o’r corona farw yn yr ysbyty neu mewn cartrefi gofal, meddai’r Swyddfa Ystadegau.