Mae Gweinidog Iechyd Llafur Cymru, Vaughan Gething wedi cadarnhau heddiw (Mawrth, 25) y bydd cymorth ariannol ychwanegol ar gael i’r sawl sydd wedi eu heffeithio gan sgandal waed.
Cafodd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru ei sefydlu yn 2017 i ddarparu cymorth i bobl sydd wedi’u heintio yn dilyn triniaeth gyda gwaed wedi eu heintio drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ar ôl blynyddoedd o frwydro er mwyn sicrhau cefnogaeth gyfartal i bawb, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i gysoni pedwar cynllun cefnogaeth y Deyrnas Unedig.
Bydd hynny’n golygu y bydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yn cyd-fynd â chymorth yr Alban a Lloegr ac y bydd cymorth ariannol yn cael ei ôl-ddyddio hyd at fis Ebrill, 2019.
Bydd tri chynllun arall y Deyrnas Unedig yn dilyn arweiniad Cymru, drwy dalu’r budd-dal marwolaeth o £10,000 yn awtomatig.
Maent hefyd yn bwriadu cyflwyno cynlluniau cymorth seicolegol, tebyg i’r hyn sydd eisoes ar gael yng Nghymru.
Yng Nghymru, bydd taliadau blynyddol i ddioddefwyr yn codi, bydd cynnydd yn nifer y taliadau, a chyfnod y taliadau, ar gyfer partneriaid mewn profedigaeth, a newidiadau i’r cyfandaliadau ar gyfer hepatitis C a HIV.
“Pennod dywyll yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol”
Yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething:
“Mae’r sgandal waed heintiedig wedi bod yn bennod dywyll yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sydd wedi cael effaith ddinistriol a pharhaol ar lawer iawn o bobl.
“Ers peth amser, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cydnabod eu cyfrifoldeb i’r dioddefwyr a sicrhau nad oedd gwahaniaethau’n bodoli rhwng y cynlluniau cymorth sydd ar gael.
“Rwy’n falch eu bod bellach wedi cywiro’r gwahaniaethau hyn.”
Mae Julie Morgan, ymgeisydd Llafur Cymru dros Ogledd Caerdydd, wedi ymgyrchu ers blynyddoedd dros gefnogaeth gyfartal i bawb sydd wedi eu heffeithio yn sgil y sgandal.
“Mae gormod o bobl wedi gorfod brwydro am gefnogaeth, tra eu bod nhw hefyd yn brwydro i ddod i wybod y gwir am pam eu bod wedi contractio hepatitis C neu HIV,” meddai Julie Morgan.
“Rwyf wrth fy modd ein bod, o’r diwedd, yn gweld cefnogaeth gyfartal ar gael i’r nifer fawr o bobl yng Nghymru y mae’r sgandal ofnadwy hwn wedi effeithio arnynt.
“Ond yn anffodus, mae penderfyniad Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i gydnabod ei chyfrifoldeb yn dod yn rhy hwyr.”