Mae bron i hanner oedolion gwledydd Prydain wedi diodde’ pyliau o fethu cysgu, ac mae hynny wedi effeithio wedyn ar eu bywyd bob dydd.
Meddai ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Cyngor Cwsg heddiw:
* Mae 48% o bobol gwledydd Prydain wedi diodde’ o insomnia;
* Mae 18% wedi cael hunllefau sy’n eu rhwystro rhag cael noson dda o gwsg;
* 14% wedyn yn diodde’ o ‘nosturia’, sef yr angen i godi yn y nos i fynd i’r toiled;
* Mae un o bob pump (22%) yn methu cysgu oherwydd eu bod nhw’n cael trafferth cadw eu coesau’n llonydd – yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘Restless Leg Syndrome’ yn Saesneg.