Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth dyn 23 oed yn dilyn ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerffili nos Sul diwethaf.

Cafodd dyn 26 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol i Jake Mark Sweeney yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ag anafiadau difrifol i’w ben ac fe fu farw brynhawn ddoe.

Yn dilyn ei farwolaeth, mae’r dyn 23 oed wedi cael ei ail-arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae dau ddyn arall gafodd eu harestio yn dilyn ffrwgwd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio ar i unrhyw un oedd y tu allan i’r dafarn rhwng 1-2yb fore Sul gysylltu â nhw ar 101.