Carchar y Berwyn (Llun: Hannah Galley)
Mae deiseb wedi’i sefydlu yn galw ar lywodraethwr carchar newydd Wrecsam i gael gwared ag enw ‘Bala’ oddi ar un adain yno.
Llinos Jones-Williams sy’n gyfrifol am gasglu’r enwau, ac er mai nos Fawrth y cafodd y ddeiseb ei rhoi ar y we, mae rhai wedi gadael sylwadau cryfion yn gwrthwynebu enwi adran o’r carchar yn ‘Bala’. ‘Alwen’ a ‘Ceiriog’ ydi enwau’r ddwy gymuned arall.
Yn ôl Dewi Davies o Fron-goch: “Nid yw bala mond enw cyffredin, (common noun). Y Bala yw’r enw priod, (proper noun). Mae rhoi’r enw bala neu Bala ar yr adain yn chwerthinllyd gan awgrymu mai man i ddianc yw hwn, (gw. ystyr mewn geiriadur)!”
Meddai Mari Williams o Lanuwchllyn: “Dim ymgynghoriad a dim hyd yn oed y cwrteisi i adael i bobol yr ardal wybod. Efallai nad oes hawlfraint cyfreithiol ond siawns bod gan drigolion yr dref ar ardal rhywfaint o hawl ar enw eu tref eu hunain.”
Ac yn ôl Branwen Williams o’r Bala, “Mae’n torri calon gweld enw ein tref ar adain o’r carchar newydd.”
Mae’r ddeiseb i’w gweld yn fan hyn.
HMP Berwyn
Cafodd yr enw ‘Bala’ ar adain gynta’r carchar ei gyhoeddi bythefnos yn ôl, ac fe agorodd y carchar ar Chwefror 28.
Mae’r enwau eraill a gafodd eu cynnig ar gyfer yr adain gan ysgolion, cymunedau a chymdeithasau hanesyddol yn cynnwys Bridgeway, Marcher, Cerrig Tan, Dee Vale a Whittlesham.
Carchar Categori C i ddynion yw’r Berwyn, ac fe gostiodd £250 miliwn i’w godi.
Pan fydd yn cael ei gwblhau, fe fydd yr un maint â charchar mwyaf gwledydd Prydain, HMP Oakwood yng nghanolbarth Lloegr, gyda lle i 2,106 o garcharorion.
Mae disgwyl i 1,000 o swyddi newydd gael eu creu o ganlyniad i adeiladu’r carchar newydd, gyda’r ddwy adain arall yn cael eu codi erbyn yr hydref.