Mae’r Irish Examiner yn adrodd bod yr awdurdod sy’n gyfrifol am ddatblygiad y Gaeltacht, neu gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg, yn rhybuddio bod llety gwyliau’n un o’r bygythiadau mwyaf i ddyfodol yr iaith.

Mae aelodau’r bwrdd Údarás na Gaeltachta yn dweud bod diffyg tai yn ardaloedd y Gaeltacht yn gorfodi pobol o’u bröydd lle mae’r iaith ar ei chryfaf, ac yn rhybuddio bod pobol yn cael eu prisio allan o’r farchnad leol gan bobol sy’n prynu eiddo fel ail dai.

Mewn cyfarfod yn ddiweddar, cafodd pryderon am dai eu mynegi gan Comhlacht Forbartha na nDéise, y corff datblygu lleol, gan gynnwys diffyg eiddo i bobol leol eu prynu neu eu rhentu am bris fforddiadwy.

Yr un yw’r sefyllfa ym mron pob cymuned lle mai’r Wyddeleg yw’r brif iaith, meddai’r bwrdd.

“Mae’r mater tai ar hyn o bryd yn un o’r bygythiadau mwyaf i barhad Gwyddeleg fel iaith fyw yn y Gaeltach ac, yn wir, y tu allan i’r Gaeltacht,” meddai Anna Ní Ghallachair, cadeirydd y bwrdd, yn ôl y papur newydd.

“Rydym ni, fwrdd Údarás na Gaeltachta, yn gallu gweld bod y cwestiwn tai yn achosi cryn bryder ym mhob rhanbarth o’r Gaeltacht.

“Rhaid canmol Comhlacht Forbartha na nDéise am eu dyfalbarhad wrth fynd i’r afael â’r mater hwn.

“Mae Údarás na Gaeltachta eisoes yn ymdrechu i ddod o hyd i ddatrysiadau yn An Rinn, gan gydweithio â’r gymuned leol.”

Mae trafodaethau ar y gweill gyda’r awdurdod lleol er mwyn sicrhau tir ar gyfer tai fforddiadwy, ac mae ymchwil ar y gweill hefyd i ddarpariaeth tai yn Dún na nGall (Donegal).