Bydd y Comisiynwyr Iaith Gymraeg a’r Wyddeleg yn lansio cyfrol ddydd Iau (Medi 28, 5 o’r gloch) sy’n dathlu cyfraniad arbennig yr Athro Colin Williams i’r maes polisi a chynllunio iaith.

Mae Language, Policy and Territory yn datblygu damcaniaethau polisi a rheoleiddio iaith, ac yn ystyried heriau polisi iaith yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Canada a Chatalwnia.

Yn ystod y sesiwn rhithwir, bydd llu o ffigyrau amlwg yn trafod cynnwys y llyfr yn ogystal â chyfraniad yr Athro Colin Williams at ei faes academaidd, ac yn ogystal â fe ei hun, yn eu plith mae Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, a Rónán Ó Domhnaill, Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg.

Ymhlith y cyfranwyr eraill mae’r academydd a bardd Emyr Lewis, a golygyddion y gyfrol, sef Dr Kathryn Jones, yr Athro John Walsh, yr Athro Robert Dunbar a’r Athro Wilson McLeod.

‘Cyfraniad enfawr’

“Rydym yn hynod falch fel IAITH o gynnal y lansiad hwn i ddathlu cyfraniad enfawr yr Athro Colin Williams i’r maes polisi a chynllunio iaith,” meddai Dr Kathryn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr IAITH Cyf.

“Bydd y sesiwn yn gyfle i drafod materion o bwys yng Nghymru a thu hwnt, yn ogystal â chyraeddiadau Colin drwy gydol ei oes.

“A nifer fawr o ffigyrau nodedig yn cymryd rhan mae’r digwyddiad hwn yn argoeli i fod yn ddathliad teilwng i academydd o fri.”

Dywed Rónán Ó Domhnaill, Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg, ei fod “yn edrych ymlaen yn fawr at lansiad y llyfr yma sy’n dathlu gwaith yr Athro Williams”.

“Mae cyfraniadau Colin Williams at syniadaeth ac arfer yn anferth gan fod ei waith yn estyn tu hwnt ddisgyblaethau, ffiniau ac ieithoedd,” meddai.

“Bydd penodau’r llyfr hwn o ddefnydd i arbenigwyr yn ogystal â’r rheiny nad yw’n arbenigwyr, ac mi fyddant yn cynnig mewnwelediadau amrywiol a phlwralaidd i ystod o faterion hollbwysig yn ymwneud â pholisi a disgwrs iaith gyfoes.”

Dywed yr Athro Wilson McLeod, o Brifysgol Caeredin gynt, ei fod e wrth ei fodd “o weld y Festschrift yma mewn print er anrhydedd i’r Athro Colin Williams”.

“Mae Colin wedi cyfrannu’n fawr at faes polisi a chynllunio iaith ac mae wedi llwyr haeddu ennill enw hynod dda yn rhyngwladol,” meddai.

“Mae gweithio gydag ef wedi bod yn fraint, ac mae’n fy mhlesio yn fawr gweld cymaint o gyfraniadau ardderchog oddi wrth ei ffrindiau a’i gydweithwyr ochr yn ochr â’i gilydd yn y gyfrol ffein yma.

“Edrychwn ymlaen at y digwyddiad lansio pan allwn ddod at ein gilydd i ddathlu cyraeddiadau eithriadol Colin a’i waith parhaus yn ein maes.”

Yn ôl yr Athro John Walsh, Athro Cysylltiol yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Galway, mae “ehangder unigryw” yn perthyn i waith yr Athro Colin Williams.

“Mae Colin wedi gwneud cyfraniad hynod i’r gwyddorau cymdeithasol trwy gydol ei yrfa, gan gyfrannu at ystod amrywiol o feysydd gan gynnwys cenedlaetholdeb, llywodraethiant, gwyddorau gwleidyddol, daearyddiaeth ac ieithyddiaeth gymdeithasol,” meddai.

“Mae ei arddull amlddisgyblaethol o gysylltu iaith gyda chymaint o agweddau eraill ar y gwyddorau cymdeithasol yn golygu bod gan ei waith ehangder unigryw o ran safbwynt a chymhwysedd.

“Gyda degawdau o brofiad o astudio ymgyrchu iaith a llywodraethiant mewn amryw o gyd-destunau yn sail, mae gwaith Colin wedi cyfoethogi ein dealltwriaeth o heriau damcaniaethol ac ymarferol heriau polisi ieithoedd lleiafrifol.”

Yn ôl yr Athro Robert Dunbar o Brifysgol Caeredin, “mae cyfraniad Colin Williams at astudiaeth a gweithrediad polisi iaith yn aruthrol”.

“Ymhlith agweddau mwyaf nodedig gwaith Colin mae ei ymwneud â’r broses polisi cyhoeddus, a’i allu i drosi syniadau yn weithredoedd, a hynny er budd siaradwyr ieithoedd lleiafrifol,” meddai.

“Mae wedi gosod esiampl, wedi ysbrydoli, wedi cefnogi, ac wedi bod yn ffrind i gymaint o ysgolheigion eraill, gan gynnwys fy hun.

“Ac ef yw un o’r bobol mwyaf caredig, dechau, a hyfryd dw i erioed wedi cael y pleser o gwrdd.”

‘Cyfuno’r theoretig â’r ymarferol’

“Mae’r gyfrol hon yn cyfuno’r theoretig â’r ymarferol – cyfuniad sydd wedi nodweddu gyrfa’r Athro Colin H. Williams,” meddai Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg.

“Rydym fel swyddfa yn ddyledus iddo am ei waith a’i weledigaeth yn sefydlu Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn fuan iawn wedi i Gymru gael ei Chomisiynydd cyntaf.

“Mae honno’n Gymdeithas sydd wedi dwyn ffrwyth ac yn hwyluso rhannu profiadau ac arferion da er mwyn cefnogi gwarchod hawliau ieithyddol ar draws y byd – rhywbeth sydd wrth fodd calon Colin yn sicr.

“Rydym newydd lansio ein cynllun strategol sy’n gosod allan sut rydym yn mynd i weithredu dros y tair blynedd nesaf er mwyn creu Cymru lle gall pobol fyw eu bywyd yn Gymraeg.

“Wrth reswm, mae themâu’r gyfrol hon, sef y gydberthynas rhwng iaith, daearyddiaeth a pholisi cyhoeddus yn greiddiol i’r weledigaeth honno a’n gwaith o ddydd i ddydd.

“Bydd y gyfrol hon yn gymorth i sicrhau bod ein gwaith ymarferol ni yn rhoi ystyriaeth lawn i’r theori a’r trafodaethau diweddaraf yn y maes.”