Mae elusennau anifeiliaid yn galw am ddod â rasio milgwn i ben yng Nghymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Dim ond un trac rasio sydd yng Nghymru, a byddai modd dod â’r arfer i ben yn gyflymach yma, meddai’r ymgyrchwyr.

Yn ôl data Bwrdd Milgwn Prydain Fawr, cafodd dros 2,000 o filgwn eu lladd wrth rasio rhwng 2018 a 2021, a chafodd bron i 18,000 anafiadau.

Mae’r trac yn Ystrad Mynach yn un annibynnol, felly does dim cofnod o faint o gŵn sydd wedi marw neu gael eu hanafu yno.

Mae Cymru yn un o’r deg gwlad yn y byd sydd yn dal i rasio milgwn, ond mae elusennau Dogs Trust, RSPCA Cymru a Blue Cross yn galw am ddod â’r gamp i ben yn raddol yma.

‘Annerbyniol’

Dywed Owen Sharp, Prif Weithredwr elusen Dogs Trust, eu bod nhw wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant ers blynyddoedd i drio gwella lles y cŵn a’r amodau, ond nad yw’r cynnydd yn ddigonol nac yn digwydd yn ddigon cyflym.

“Tydy hi ddim yn dderbyniol gymaint o gŵn sy’n eu lladd neu eu hanafu yn enw adloniant,” meddai.

“Rydym ni wedi ymroi i sicrhau lles milgwn sy’n cael eu heffeithio drwy alw am ddiwedd graddol i’r gamp.”

Dod i ben ‘mor fuan â phosib’

Ychwanega Chris Sherwood, Prif Weithredwr yr RSPCA, ei bod hi’n syndod nad yw mwy nag un ci y diwrnod yn marw yn y Deyrnas Unedig yn sgil rasio.

“Mae ein hadolygiad wedi dod i’r casgliad ei fod yn anniogel ac yn peryglu lles y cŵn ar hyd eu bywydau, ac nid yw hyn yn dderbyniol.

“Rydym yn teimlo nawr, wrth symud ymlaen, mai’r unig ffordd i sicrhau bywydau da i’r cŵn yw galw am ddiwedd graddol i’r arfer a sicrhau bod rasio milgwn yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.

“Er nad oes yna amddiffyniadau cyfreithiol i filgwn yng Nghymru, rydym yn falch o weld awydd Llywodraeth Cymru i weithredu a gweithio gyda’r diwydiant ar hyn.

“Dim ond deg gwlad dros y byd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig i gyd, sy’n caniatáu rasio milgwn, ac rydym yn teimlo bod y dystiolaeth yn glir, ac i wella lles milgwn, rhaid i ni weld diwedd graddol i’r arfer mor fuan ag sy’n bosib.”

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, wedi cyhoeddi bod dyfodol rasio milgwn yn fater mae hi’n edrych arno “o ddifrif”, ac mae hi wedi gofyn i’w swyddogion edrych ar ymarferoldeb dod â’r arfer i ben yng Nghymru.