Mae gwleidyddiaeth Prydain wedi torri ac mae’n rhaid newid y system wleidyddol, yn ôl un Aelod Llafur o’r Senedd.

Dylai gwleidyddiaeth San Steffan fod yr un mor aeddfed â gwleidyddiaeth Cymru, meddai Alun Davies wrth golwg360, wrth groesawu galwadau aelodau’r Blaid Lafur i ddiwygio’r system bleidleisio ar gyfer etholiadau cyffredinol.

Yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, fe wnaeth yr aelodau bleidleisio o blaid cynnwys ymrwymiad i gyflwyno system cynrychiolaeth gyfrannol yn eu maniffesto nesaf.

Ar hyn o bryd, mae etholiadau cyffredinol yn defnyddio system y Cyntaf i’r Felin, sy’n golygu bod yr ymgeisydd â’r nifer uchaf o bleidleisiau mewn etholaeth yn dod yn Aelod Seneddol.

O gymharu, mae’r system cynrychiolaeth gyfrannol yn golygu bod y seddi’n cyd-fynd yn well â nifer y pleidleisiau gafodd eu rhoi i bob plaid.

“Dw i’n meddwl bod gwleidyddiaeth Prydain wedi torri, ac mae’n rhaid newid dim jyst y system economaidd ond y system wleidyddol,” meddai Alun Davies, sy’n cynrychioli Blaenau Gwent yn y Senedd, wrth golwg360.

“Pan wyt ti a finnau yn pleidleisio yn etholiadau San Steffan rydyn ni’n gwybod yn aml fod ein pleidlais ni ddim yn cyfrif, a dw i’n credu y dylai pob un bleidlais gyfrif.

“Mae First Past the Post yn system sy’n corrupt ac yn system sy’n galluogi i’r Ceidwadwyr lywodraethu dro ar ôl tro ar ôl tro gydag ychydig iawn o’r bleidlais – llai na hanner y bleidlais.

“Dw i ddim yn credu mai hynny ydy’r fath o wleidyddiaeth y mae gen i ddiddordeb ynddo.”

Gwleidyddiaeth ‘aeddfed’

Wrth siarad yng nghynhadledd y blaid ddoe (dydd Llun, Medi 26), fe wnaeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, annog yr aelodau i gefnogi cynrychiolaeth gyfrannol ac annog y blaid i gydweithio â phleidiau eraill.

“Os ydych chi’n edrych lawr degawdau o lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, mi fysech chi’n gweld bod Llafur Cymru wedi bod yn barod i weithio a chydweithio gyda bron pob un blaid yno, ar wahân i’r Ceidwadwyr yn amlwg,” meddai Alun Davies.

“Dw i’n credu bod hynny’n eithaf pwysig.

“Dydy pleidleiswyr Cymru ddim wedi ethol llywodraeth Lafur, ond wedi rhoi cyfle i Lafur arwain llywodraeth. Mae yna wahaniaeth rhwng y ddau beth.

“Dw i’n credu bod rhaid i wleidyddiaeth San Steffan dyfu lan, gadael yr iard chwarae a bod yr un mor aeddfed â gwleidyddiaeth Cymru.”

Barn Keir Starmer yn ‘siomedig’

Dydy Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, heb gefnogi’r galwadau, ac mae’n mynnu nad yw diwygio etholiadol yn flaenoriaeth.

“[Dw i’n] siomedig gyda barn Keir, ond bydd rhaid i Keir sylweddoli os ydy e eisiau newid y system economaidd, bod rhaid iddo fe newid y system ddemocrataidd,” meddai Alun Davies.

“Mae gyda ni greisis economaidd yn wynebu ni ar hyn o bryd, mae pob un ohonom ni’n deall ac yn gwybod hynny, ond hefyd mae gyda ni greisis democratiaeth yn ein hwynebu ni.

“Dydy creisis democrataidd ddim yn meddwl bod pobol methu gwneud pethau fel cael gwres i’r tŷ neu brynu bwyd bob wythnos, dyw e ddim y fath o greisis argyfyngus ag sydd gyda ni ar yr ochr economaidd.

“Ond y creisis democrataidd ydy un o’r rhesymau pam bod gyda ni greisis economaidd.

“Dw i ddim yn credu dy fod di’n gallu datrys yr economi heb ddatrys y system wleidyddol.”

‘Moment hanesyddol’

“Mae hon yn foment hanesyddol i’r Blaid Lafur wrth iddi bleidleisio’n unfrydol i gael gwared ar system Cyntaf i’r Felin doredig a chefnogi cynrychiolaeth gyfrannol lle mae pob pleidlais yn cyfrif,” meddai Laura Parker o’r grŵp Llafur dros Ddemocratiaeth Newydd, sy’n ymgyrchu dros gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol.

“Mae’r newid anferth hwn yn y Blaid Lafur wedi cael ei yrru gan filoedd o aelodau ac undebwyr yn mynnu diwedd i system etholiadol sy’n gwneud i filiynau o bobol deimlo’u bod nhw’n cael eu hanghofio gan San Steffan.

“Mae’r bleidlais yn ei gwneud hi’n amlwg bod y blaid a’n mudiad yn gwybod bod rhaid cael system bleidleisio deg er mwyn i unrhyw Lywodraeth Lafur allu creu cymdeithas decach, fwy cyfartal.”