Mae pobol sy’n mynd i’r rali a gorymdaith annibyniaeth yng Nghaerdydd y penwythnos nesaf wedi cael rhybudd i baratoi ymlaen llaw yn sgil y streiciau sy’n debygol o darfu ar wasanaethau trenau’r brifddinas.
Mae gofyn i bobol sy’n gorymdeithio ymgasglu ym Mhlas Windsor am 10.30yb ddydd Sadwrn (Hydref 1), i ddod â baneri, chwibanau, drymiau ac offerynnau gyda nhw, ac i baratoi eu taith cyn gadael gan y bydd y streiciau’n cael effaith ar drenau Trafnidiaeth Cymru drwy gydol y dydd, yn ôl y trefnwyr
Bydd yr orymdaith yn dechrau am 12 o’r gloch, ac yn mynd ar hyd Heol y Frenhines, Heol Sant Ioan, Stryd Working, Yr Aes, Lôn y Felin, Heol Eglwys Fair, y Stryd Fawr a Heol y Dug, cyn dychwelyd i Blas Windsor drwy Heol y Frenhines.
Yn dilyn yr orymdaith, fe fydd rali ym Mhlas Windsor, gydag areithiau a pherfformiadau gan yr actor Julian Lewis Jones, yr actores a nofelydd Ffion Dafis, cyn-arweinydd Plaid Cymru Dafydd Wigley, y canwr Eädyth Crawford a’r digrifwr Gwyddelig Tadhg Hickey.
Yn ogystal â’r orymdaith a’r rali, mae sawl digwyddiad ymylol wedi’i drefnu ar gyfer y penwythnos, a bydd gig annibyniaeth yn cael ei gynnal yn y Globe yng Nghaerdydd ar y nos Sadwrn.
Mae manylion llawn am y prif ddigwyddiadau a’r rhai ymylol, yn ogystal â gwybodaeth am deithio a pharcio, ar gael ar https://www.auob.cymru/cy/post/auob-cardiff.
‘Cyfle i godi lleisiau’
Un arall fydd yn siarad yw Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr newydd Yes Cymru, sef cyd-drefnwyr yr orymdaith.
“Ar ôl cael fy mhenodi’n Brif Weithredwr cyntaf ar YesCymru yn ddiweddar rwy’n edrych ymlaen at ddathliad llawn hwyl a chyfle i ni godi ein lleisiau gyda’n gilydd dros annibyniaeth yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yma,” meddai.
“Mae’n amlwg iawn na fydd San Steffan, ac na all fyth, roi blaenoriaethau Cymru yn gyntaf.
“Yr unig ateb yw i ni ddilyn ein llwybr ein hunain, at annibyniaeth.”
Yn ôl Harriet Protheroe-Soltani, ar ran AUOB Cymru, y cyd-drefnwyr, mae’n bwysicach nag erioed fod pobol yn dod ynghyd i leisio barn am y sefyllfa bresennol.
“Rydyn ni’n gyffro i gyd am yr orymdaith ddiweddaraf dros annibyniaeth fydd yng Nghaerdydd ar Hydref 1af,” meddai.
“O ystyried y toriadau treth i’r cyfoethog a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth San Steffan a’r erydiad parhaus i hawliau gweithwyr, mae’n bwysig – yn awr yn fwy nag erioed – ein bod oll yn dod at ein gilydd i ddatgan yn glir nad ydym yn ymddiried yn San Steffan i ofalu ar ôl buddiannau Cymru.
“Rydyn ni’n disgwyl gweld nifer fawr yn teithio i Gaerdydd o bob rhan o Gymru.
“Welwn ni chi ar y strydoedd!”