Mae’n “hanfodol” bod mwy o aelwydydd yn cynnig lle i ffoaduriaid i Wcráin, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Hyd yn hyn, mae mwy na 5,650 o bobol o Wcráin, sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd yn y wlad, wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig.
Wrth roi diweddariad ar y sefyllfa, dywed Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, fod 8,200 o fisas wedi cael eu rhoi i bobol o Wcráin sydd wedi cael eu noddi yng Nghymru.
Mae disgwyl i’r nifer fydd yn cyrraedd barhau i gynyddu yn ystod yr wythnosau nesaf, meddai.
“Noddodd miloedd o aelwydydd o Gymru Wcreiniaid i gyrraedd Cymru ac fe wnaethant ymrwymo i’w cynnal am o leiaf 6 mis,” meddai Jane Hutt.
“Wrth i ni symud i’r hydref, rydym yn nesáu at ddiwedd y cyfnod cychwynnol hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd y gwesteiwyr a’r Wcrainiaid yn cytuno i ymestyn llawer o’r lleoliadau hynny, ond mae arnom angen gwesteiwyr ychwanegol i gefnogi’r rhai na allant barhau i fyw lle maent.
“Er mwyn sicrhau croeso cynnes i Gymru, rwy’n rhoi gwahoddiad i aelwydydd ledled Cymru agor eu cartrefi i groesawu’r rhai sy’n ceisio noddfa.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb ledled Cymru sy’n gweithredu fel gwesteiwyr i Wcrainiaid, ond mae’n hanfodol bod mwy o aelwydydd ar gael.”
Cymorth i Westeiwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Housing Justice Cymru i ddarparu gwasanaeth cymorth i westeiwyr er mwyn helpu pobol sy’n croesawu, neu’n ystyried croesawu, Wcreiniaid i Gymru.
“Gall y syniad o groesawu pobol i’ch cartref fod yn heriol,” meddai Jane Hutt.
“Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau a hyfforddiant ar gael ar wefan Housing Justice Cymru. Rydym hefyd yn cyhoeddi canllawiau sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ar gyfer gwesteiwyr a noddwyr yn gov.wales/ukraine.
“Mae arnom angen llawer mwy o aelwydydd o hyd i ystyried a allant ddarparu cartref i’r rhai mewn angen. Byddai hyn fel rheol yn ymrwymiad i letya am 6 i 12 mis.
“Os oes unrhyw un yn ystyried hyn rydym yn eu hannog i gofrestru eu diddordeb yn gov.wales/offerhome, ac i fynychu un o’r sesiynau ‘Cyflwyniad i Westeio’, a hwylusir gan Housing Justice Cymru. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth i barhau â’r broses os byddwch yn penderfynu nad yw ar eich cyfer chi.
“Rydym hefyd wedi ffurfio partneriaeth gydag Airbnb.org i sicrhau y gellir darparu lleoliadau brys am dymor byr iawn i atal digartrefedd.
“Os na allwch chi letya am fwy na chwe mis ond y gallech chi gynnig eich eiddo am hyd at 30 diwrnod ar y tro, efallai y byddwch yn gallu cyfrannu hefyd.
“Ewch i gov.wales/offerhome a dilynwch y ddolen i blatfform Airbnb.org.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfathrebu â’r rhai sy’n cynnal Wcreiniaid, gyda chanllawiau a gwybodaeth, yn ôl Jane Hutt.
“I bawb sydd eisoes yn cynnal Wcrainiaid ac i’r rhai sy’n ystyried hynny, diolch yn fawr, mae arnom ni ddyled enfawr i chi i gyd,” meddai.