Mae myfyrwyr trydedd lefel yn cael eu hannog i ymgyrchu tros yr iaith Wyddeleg, fel rhan o gynllun newydd o’r enw ‘Gníomhaí Gaeilge’ (‘Ymgyrchwyr tros yr iaith Wyddeleg’).

Mae’r cynllun wedi’i sefydlu gan Conradh na Gaeilge ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr yn Iwerddon a’r Awdurdod Addysg Uwch, a fydd yn gweld myfyrwyr yn defnyddio’r iaith yn aml gyda balchder tra eu bod nhw hefyd yn weithgar yn y mudiad iaith.

Mae’r cynllun newydd yn cael ei gefnogi gan yr Awdurdod Addysg Uwch yn sgil arian gwerth €150,000 dros gyfnod o dair blynedd.

Mae’r cynllun newydd wedi cael ei groesawu gan Simon Harris, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth.

“Mae hwn yn gam positif iawn sydd wedi’i yrru gan ein harweinwyr addysg a myfyrwyr,” meddai.

“Yn ddiweddar, dw i wedi darganfod grá (cariad) newydd at yr iaith, a dw i’n dechrau ar daith newydd i ddysgu’r Wyddeleg.

“Dw i’n credu bod gan y rheiny ohonom sydd mewn swyddi arwain ddyletswydd i warchod ein hiaith genedlaethol.

“Ond hefyd, rhaid i ni sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y gallu i ymgysylltu â’r iaith a’i hyrwyddo hi hefyd.

“Dyna pam fydd y bartneriaeth hon rhwng yr HEA, USI a Conradh na Gaeilge yn gonglfaen sylfaenol wrth warchod ein hiaith yn y dyfodol.”

‘Cydnabod rôl bwysig’

Mae Dr Alan Wall, prif weithredwr yr Awdurdod Addysg Uwch, yn dweud bod yr Awdurdod wrth eu boddau o gael paru gyda Conradh na Gaeilge a’r USI yn y dull newydd hwn o gadw, hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r iaith Wyddeleg mewn sefydliadau Addysg Uwch.

“Rydym yn cydnabod fod gan sefydliadau Addysg Uwch rôl bwysig wrth ddylanwadu’r dewis iaith gydol oes a’i defnydd ymhlith myfyrwyr,” meddai.

“Mae gan Gníomhaí Gaeilge nifer o nodweddion cynaladwy ddylai arwain at ganlyniad positif.”

Mae Conradh na Gaeilge ac Undeb y Myfyrwyr yn Iwerddon wedi bod yn cydweithio â Chymdeithasau’r Iaith Wyddeleg a’r Swyddogion Iaith Wyddeleg mewn colegau trydedd lefel i’w datblygu, cryfhau ac ehangu ers 1998.

Tra bod cynnydd sylweddol wedi bod, maen nhw eisiau adeiladu ar y strwythur cryf hwn.

“Rydym wedi cyffroi o gael datblygu’r cynllun mentora, hyfforddi a gwobrwyo Gníomhaí Gaeilge newydd mewn colegau trydedd lefel ar y cyd ag USI a gyda chefnogaeth yr HEA,” meddai Paula Melvin, llywydd Conradh na Gaeilge.

“Rydym yn credu ei bod hi’n bwysig cydnabod a chefnogi myfyrwyr yn eu gwaith i hyrwyddo ac ymgysylltu â’r iaith yn eu colegau.

“Rydym hefyd yn credu y bydd y gydnabyddiaeth hon yn gweithio o’u plaid nhw wrth iddyn nhw geisio cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn eu cyflwyno nhw i’r gymuned Wyddeleg ehangach, os nad ydyn nhw eisoes yn rhan ohoni.”

‘Normaleiddio’r iaith’

Dywed Róisín Nic Lochlainn, Dirprwy Lywydd Gaeilge Undeb y Myfyrwyr yn Iwerddon, y bydd y cynllun newydd yn helpu i normaleiddio’r defnydd o’r iaith Wyddeleg fel rhan o fywyd bob dydd mewn addysg uwch.

“Drwy hyfforddi a gwobrwyo myfyrwyr am eu defnydd o’r Wyddeleg fel rhan o fywyd coleg, byddan nhw’n cael eu hannog i’w defnyddio hi fwy yn eu dyfodol,” meddai.

“Mae normaleiddio ei defnydd yn hanfodol bwysig er mwyn gwireddu’r momentwm hwn.”

Prif nod Gníomhaí Gaeilge yw adeiladu, datblygu, cryfhau a chynyddu nifer y Cymdeithasau Iaith Wyddeleg a Swyddogion Iaith Wyddeleg dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.

Bydd pob myfyriwr, Cymdeithas Iaith Wyddeleg ac Undeb Myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn cael mentor i’w cefnogi nhw yn eu cynlluniau gwaith a fydd yn cael ei gytuno ar ddechrau’r flwyddyn.

Bydd Gwobrau Gníomhaí Gaeilge hefyd, yn seiliedig ar gynnydd y cynlluniau gwaith hyn ar ddiwedd y flwyddyn.

Yn ogystal, fe fydd tystysgrifau Gníomhaí Gaeilge unigol i fyfyrwyr gweithgar sy’n dilyn y cynllun, a bydd gweithdai sawl gwaith y flwyddyn i sicrhau bod gan fyfyrwyr a swyddogion sgiliau ychwanegol.