Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymateb i “weithredoedd treisgar ac ysglyfaethus” dyn 31 oed sydd wedi’i garcharu am oes am lofruddio Lily Sullivan o Benfro.

Bydd Lewis Haines yn treulio o leiaf 23 mlynedd a phedwar mis dan glo ar ôl i lys ei gael yn euog o lofruddio’r ddynes 18 oed ar Ragfyr 17 y llynedd ar ôl iddi fod ar noson allan gyda’i ffrindiau.

Cafodd yr heddlu eu galw toc ar ôl 4.10yb, a chael gwybod fod ymosodiad wedi digwydd, a chafwyd hyd i Lily Sullivan yn y dŵr yn fuan wedyn.

Er iddi gael triniaeth gan barafeddygon, bu farw o ganlyniad i’w hanafiadau’n fuan wedyn, a daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad iddi ddioddef ymosodiad treisgar a’i bod hi wedi cael ei thagu.

Cafodd Lewis Haines ei arestio a’i gyhuddo ar Ragfyr 20, fe blediodd yn euog i ddynladdiad fis Mai eleni ac roedd disgwyl iddo fynd gerbron llys ym mis Mehefin, ond fe newidiodd ei ble wythnos cyn dechrau’r achos yn sgil y dystiolaeth yn ei erbyn.

‘Hunanol a chreulon’

“Ar nos Iau 16 Rhagfyr 2021, mwynhaodd Lily Sullivan, 18 oed, noson allan gyda ffrindiau ac ni ddychwelodd adref,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Richard Yelland.

“Yn gynnar fore trannoeth, cymerodd gweithredoedd treisgar ac ysglyfaethus Lewis Haines fywyd Lily.

“Anwybyddodd Haines sawl cyfle i geisio cymorth i Lily wrth adael lleoliad ei drosedd.

“Mae ei weithredoedd hunanol a chreulon wedi newid bywydau’r rhai a oedd yn adnabod ac yn caru Lily, a chymuned glos Penfro.

“Mae’r ddedfryd oes a roddwyd i Lewis Haines heddiw’n sicrhau na fydd yn medru niweidio eraill yn y gymuned.

“Bydd Heddlu Dyfed-Powys a’n partneriaid yn parhau i weithio’n ddiflino er mwyn dwyn y rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod a merched ym mhob ffurf i gyfiawnder.

“Nid yw’r ddedfryd hon yn unrhyw gysur i deulu a ffrindiau Lily, ond rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gam ymlaen yn y broses araf o ailadeiladu eu bywydau. Heddiw, mae fy meddyliau gyda nhw’n llwyr.”