Mae cael cydweithio cryf rhwng mudiadau ymgyrchu yn “hollbwysig”, yn ôl yr ymgyrchydd iaith Angharad Tomos.
Mewn sesiwn rhwng Gwrthryfel Difodiant a Chymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod heddiw (dydd Gwener, Awst 5), roedd Angharad Tomos a Rhian Barrance, sy’n ymchwilio i fudiadau ymgyrchu ac anufudd-dod sifil ac yn aelod o Wrthryfel Difodiant, yn trafod hanes yr ymgyrch dros yr iaith a sut y gall mudiadau eraill efelychu’r llwyddiant.
Cafodd Angharad Tomos ei charcharu chwe gwaith am ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith, a thrwy ddulliau di-drais o dorri’r gyfraith a chymryd cyfrifoldeb y llwyddodd y mudiad i ennill sawl hawl i’r iaith ac y caniatawyd sianel Gymraeg.
Yn ystod y sgwrs, dywedodd Rhian Barrance nad yw dulliau Gwrthryfel Difodiant o weithredu’n rhai newydd, ond bod Cymdeithas yr Iaith yn enghraifft, “a’r enghraifft fwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig”, o ymgyrchu drwy anufudd-dod sifil.
Yn ôl Angharad Tomos, pan ddechreuodd ymgyrchu â Chymdeithas yr Iaith roedd hi’n meddwl am y Gymdeithas a dim byd arall, ond daeth i sylweddoli ei bod hi’n bwysig cydweithio â mudiadau eraill.
Fuodd Cymdeithas yr Iaith yn cydweithio efo CND a’r mudiad gwrth-Apartheid, ac yna Mudiad y Glowyr yn ystod Streic y Glowyr yn y 1980au.
“Be gefais i drafferth mawr efo fo oedd Mudiad y Glowyr wedyn, pan ddywedodd Cymdeithas yr Iaith ein bod ni’n cefnogi’r ymgyrchoedd yma,” meddai Angharad Tomos.
“Roeddwn i’n dweud ‘Maen nhw’n digwydd mewn cymdeithasau deheuol, di-Gymraeg’ ond wedyn sylweddoli bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, rydyn ni’n cefnogi ein cyd-Gymry, yn cefnogi’r glowyr drwy Brydain achos mae hi’n ddadl dros gyfiawnder.
“Dyna ydy’r llinyn cyswllt yn y diwedd. Fedrith y Gymraeg ddim bodoli mewn vacuum, ac ymladd dros drefn decach ydych chi, dros drefn gyfiawn. Os felly mae hi’n frwydr fyd-eang.
“Dyna sydd wedi gwneud argraff arna i wrth fynd yn hŷn, y cyffredinedd yna. Rydyn ni’n grŵp bach ond rydyn ni’n ymladd y meistr mawr, ac fel arfer cyfalafiaeth a thrachwant ydy o.”
Deddf Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
Cododd Angharad Tomos a Rhian Barrance bryderon ynghylch y Ddeddf Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sy’n cynnwys rhoi rhagor o bwerau i’r heddlu allu ymateb i brotestiadau heddychlon sy’n amharu ar y cyhoedd.
“Mae hi wir yn beryglus y ddeddf newydd ar brotestio nawr, mae’r ddeddf newydd yn cyfyngu ar sŵn mewn protest – sy’n ofnadwy, achos y protestiadau sy’n cael y mwyaf o gefnogaeth yw’r rhai mwyaf swnllyd,” meddai Rhian Barrance.
“Mae’n poeni fi hefyd am y ddeddf, mae eithaf lot o ddisgresiwn i’r heddlu. Mae hi’n mynd i fod yn eithaf anodd i enforcio, gan fod cymaint o bwerau newydd iddyn nhw ond be sy’n poeni fi ydy sut mae’n mynd i effeithio lleiafrifoedd.
“Efallai fydda i fel menyw gwyn dosbarth canol ddim yn cael fy effeithio gan y ddeddf newydd, ond sut mae hwnna’n mynd i effeithio pobol sy’n barod yn cael eu targedu gan yr heddlu.
“Mae’r syniad yna o solidariaeth a chefnogi’n gilydd wir yn bwysig yn fan yna, mae’n rhaid i ni gefnogi ymgyrchwyr eraill a meddwl sut rydyn ni fel cymuned o ymgyrchwyr yn ymateb iddo.”
‘Dal ati’
Pa gyngor sydd gan Angharad Tomos i fudiadau eraill fel Gwrthryfel Difodiant, felly?
“Yr unig beth fedra ni’i wneud ydy ei herio a phrotestio yn fwy nag erioed. Peidio ymateb yn dreisiol, ond defnyddio’r cryfder sydd gennych chi fel torf. Mae’r heddlu’n ansicr sut i ymateb,” meddai.
“Does yna ddim gwadu ein bod ni’n mynd i gael dyddiau caled.
“Jyst dal ati, y flwyddyn yma rydyn ni’n dathlu 60. Does yna ddim lot o fudiadau uniongyrchol wedi cyrraedd hynny.
“Dal ati ydy’r peth mawr, a pheidio meddwl am ein hunain fel criw bach. Hyd yn oed, os ydych chi’n ddau neu dri fedrwch chi wneud rhywbeth.
“Torri ar draws y drefn fel mae’n digwydd, jyst gwneud i rywbeth ddigwydd hyd yn oed os ydych chi’n griw bach.
“Dyfalbarhau a chynnal ein gilydd, a chydgyfeillio efo mudiadau eraill a dysgu drwy’n gilydd.”