Mae cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi beirniadu swyddogion uwch yn sgil oedi wrth gyhoeddi adroddiadau cyfarfodydd.

Ar hyn o bryd, mae’r bwrdd iechyd yn destun craffu sylweddol yn dilyn cyhoeddiad fis diwethaf fod Ysbyty Glan Clwyd yn destun “ymyrraeth”.

Mae’n golygu bod yr ysbyty ym Modelwyddan yn wynebu’r ail gamau mwyaf difrifol gan Lywodraeth Cymru yn dilyn pryderon ynghylch gwasanaethau fasgwlaidd a gofal brys.

Roedd y penderfyniad yn un o’r materion pwysig gafodd eu trafod mewn cyfarfod o’r bwrdd iechyd ddoe (dydd Iau, Awst 4).

Fe wnaeth Mark Polin, y cadeirydd, feirniadu aelodau o’r tîm gweithredol yn ystod y cyfarfod ynghylch oedi wrth gyhoeddi adroddiadau a safon rhai o’r papurau a gafodd eu cyflwyno, gan gynnwys diweddariad ar gyllid y sefydliad.

‘Annerbyniol’

Fe wnaeth cyn-brif gwnstabl Heddlu’r Gogledd ddisgrifio’r problemau gweinyddol fel rhai “nad oes modd eu hamddiffyn”, gan ddweud nad dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fethu â chyflwyno fewn y terfyn amser.

“Mi wnes i nodi’n flaenorol yn y fforwm hwn fod cyhoeddi papurau’n hwyr neu’n anghyflawn ar gyfer cyfarfodydd bwrdd a phwyllgorau, ar wahân i amgylchiadau eithriadol iawn, yn annerbyniol,” meddai.

“Mae’n tarfu ar y bwrdd wrth iddo weithredu ei swyddogaeth lywodraethu a sicrwydd, ac yn gwanhau’r cyfle ar gyfer craffu cyhoeddus.

“Dyna ddisgwyliadau syml a sylfaenol tîm gweithredol a sefydliad, a does dim modd amddiffyn methu â’u cyrraedd nhw, yn fy marn i.

“Ymhellach, mae safon rhai o’r papurau, er enghraifft yr adroddiad perfformiad a’r adroddiad cyllid, o’r fath safon fel eu bod nhw’n cynnig ychydig iawn o sicrwydd neu dim sicrwydd o gwbl.

“Mi wnes i amlinellu’r rhain a phryderon eraill yn glir i’r prif weithredwr neithiwr, y bydd aelodau wedi’i weld.”

Galw am eglurhad

Mae Mark Polin wedi galw ar Jo Whitehead, prif weithredwr y bwrdd iechyd, i gynnig eglurhad ynghylch y materion hyn.

Fe ddaw ar adeg pan fo’r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi galw ar i’r bwrdd iechyd gael ei ailstrwythuro neu ei osod o dan fesurau arbennig unwaith eto.

Roedd Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig o haf 2015 hyd at fis Tachwedd 2020 o ganlyniad i anawsterau ariannol, rhestrau aros hir ac adroddiad damniol ynghylch uned iechyd meddwl Tawel Fan.

Yn ystod y cyfarfod dydd Iau, fe wnaeth Richard Micklewright, aelod annibynnol o’r bwrdd, godi pryderon ynghylch diweddariad i adroddiad y prif weithredwr.

“Mi ydw i braidd yn siomedig yn yr adroddiad fel dogfen,” meddai.

“Mae’n dweud ei fod o am roi diweddariad i ni ynghylch materion allweddol sy’n cael effaith ar y sefydliad ond a bod yn onest, dydw i ddim yn ei ddarllen o fel pe bai o’n dod yn agos at wneud hynny.

“Mewn gwirionedd, rhestr o gyfarfodydd a thrafodaethau ydi o mae o wedi’u cael heb fawr ddim wedi’i nodi ynghylch canlyniadau’r trafodaethau hynny a’r hyn sydd o bosib am newid o ganlyniad.

“Dylai hwn fod yn adroddiad eithriadol o bwysig.

“Dylai fod yn adroddiad ynghylch beth ydi’r materion yr aethpwyd i’r afael â nhw ers yr adroddiad diwethaf, o gofio ein bod ni’n sefydliad efo llawer iawn o fethiannau yr ydyn ni’n ceisio mynd i’r afael â nhw.

“Fel adroddiad gan brif weithredwr sefydliad sy’n methu’n sylweddol ar lawer ystyr, roeddwn i’n meddwl y dylai fod wedi bod yn fwy deinamig a phendant na hyn.”

Ansawdd a phrydlondeb

Dywedodd Jo Whitehead wrth ymateb fod mesurau ar waith i sicrhau ansawdd a phrydlondeb adroddiadau’r bwrdd yn y dyfodol.

“Dw i wedi cytuno ar weithdrefn fwy cadarn a safonol, sydd wedi’i dylunio i sicrhau trosolwg mwy trylwyr, a phroses sicrhau ansawdd ar gyfer yr holl bapurau sy’n mynd gerbron y bwrdd a phwyllgorau.

“Mae hyn yn cynnwys cyflwyno ein terfynau amser ein hunain ar gyfer papurau yn fewnol, ac yn arwyddocaol, drosolwg o’r holl bapurau nid yn unig gan y cyfarwyddwr gweithredol sy’n gyfrifol am ansawdd y papurau hynny, ond gan y tîm gweithredol cyfan hefyd.”