Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford ymysg yr enwau gafodd eu derbyn i’r Orsedd ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron heddiw (dydd Gwener, Awst 5).

Enw’r Prif Weinidog yn yr Orsedd yw Mark Pengwern, ac wrth ei groesawu ar ran gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, diolchodd Myrddin ap Dafydd, yr Archdderwydd, iddo am ei arweiniad yn ystod y pandemig.

Roedd Delwyn Siôn, Emyr Llywelyn, Helgard Krause a Sion Jobbins ymhlith yr enwau eraill a gafodd eu hurddo hefyd.

Cafodd Wynne Melville Jones, tad Mistar Urdd, ei dderbyn i’r Orsedd dan yr enw Mistar Urdd, ynghyd â Dr Ruth Hussey, cyn-Brif Swyddog Meddygol Cymru, dan yr enw Ruth Iechyd Da; a Robat Gruffudd, sylfaenydd y Lolfa, dan yr enw Robat Y Lolfa.

‘Dull Cymreig o lywodraethu’

Wrth dderbyn Mark Drakeford, dywedodd yr Archdderwydd ei fod wedi dangos “dull Cymreig o lywodraethu”, a diolchodd iddo am ei “arweiniad urddasol” er gwaethaf “sylwadau annheg gan y gwleidyddion a’r wasg yn Llundain”.

“Sicrhau diogelwch y cyhoedd, lles gweithwyr allweddol, a phwysigrwydd bod pawb yn cadw at yr un rheolau oedd eich blaenoriaethau,” meddai Myrddin ap Dafydd wrth urddo aelodau newydd i Orsedd y Beirdd.

“Diolch i chi, i aelodau o Senedd Cymru, i Frank Atherton y Prif Swyddog Meddygol a’i dîm, ac i’r holl weithwyr allweddol a’r gwirfoddolwyr am eu gwaith ymhob maes.

“Ac mi roesoch yn bersonol, Mark Pengwern, statws cyson i’r Gymraeg yn eich datganiadau.

“Cawsom gan Senedd Cymru weld dull Cymreig o lywodraethu, rydych wedi rhoi’r hyder i ni y gallwn ni wynebu sialensiau heriol iawn fel gwlad, gan ymddiried yn ein gilydd a thorri ein cwys ein hunain o ran gwneud penderfyniadau a’u gweithredu, ac mi allwn ni adeiladu ar hyn.

“Diolch i chi, a chroeso i Orsedd Cymru.”

 

Y rhai gafodd eu hurddo fore heddiw oedd:

Y rhai gafodd eu hurddo fore heddiw oedd:

Cadeiryddion Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol (Gwisg Las):

Trystan Lewis, Llanfairtalhaiarn, Conwy: Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019

Ashok Ahir, Treganna, Caerdydd: Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

I’w hurddo trwy Arholiad yr Orsedd (Gwisg Werdd)

Diane Jones, Cegidfa, Y Trallwng

Diane Lesley Norrell, Amwythig

Rosemary Rhys, Llanddeiniol, Llanrhystud

Gwenda Margaret Sippings, Aberystwyth

Haydn Williams, Llan-gain, Caerfyrddin

Gwisg Werdd

Deian Creunant, Aberystwyth

Anthony Evans, Caerdydd

Rhiannon Evans, Blaenpennal

Angharad Fychan, Pen-bont Rhydybeddau, Aberystwyth

Robat Gruffudd, Tal-y-bont

Elin Haf Gruffydd Jones, Aberystwyth

Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn

Helgard Krause, Aberaeron

Emyr Llywelyn, Ffostrasol

Huw Rhys-Evans, Harrow

Geraint Roberts, Caerfyrddin

Eilir Rowlands, Sarnau a Chefnddwysarn

Delwyn Siôn, Caerdydd

Gwisg Las

Cledwyn Ashford, Cefn-y-bedd, Wrecsam

Jeff Davies, Y Fenni

Mary Davies, Dre-fach, Llanybydder

Glan Davies, Rhydyfelin, Aberystwyth

Huw Edwards, Llundain

Cyril Evans, Tregaron

Anne Gwynne, Tregaron

Ronan Hirrien, ardal Brest, Llydaw

Arfon Hughes, Dinas Mawddwy

Dr Ruth Hussey, Lerpwl

Llŷr James, Caerfyrddin

John Milwyn Jarman, Y Drenewydd

Siôn Jobbins, Aberystwyth

Janet Mair Jones, Pencader

Esyllt Llwyd, Llanrug

Ann Bowen Morgan, Llanbedr Pont Steffan

Begotxu Olaizola, Zarautz, Gwlad y Basg

Glyn Powell, Pontsenni

Carys Stevens, Aberaeron

John Thomas, Cwmgïedd, Cwm Tawe

Clive Wolfendale, Llandrillo yn Rhos

Mark Drakeford, Caerdydd