Un arall sy’n hanu o ddalgylch Eisteddfod y flwyddyn nesaf ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Gadair eleni, wrth i Llŷr Gwyn Lewis godi ar ei draed ar ganiad y Corn Gwlad yn seremoni olaf yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cafodd y Gadair ei chyflwyno eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Traeth.

Y beirniaid oedd Idris Reynolds, Emyr Lewis a Twm Morys.

Bu’n dipyn o gystadleuaeth eleni.

“Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi bod yn ofni’r gystadleuaeth hon ers dwy flynedd,” meddai Idris Reynolds wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Sut brofiad fyddai beirniadu cerddi 2020 yn 2022 yn enwedig o gofio’r ddwy flynedd ryfedd yr ydym yn dod allan ohonynt? Cyrhaeddodd dechrau cyfnod clo’r Covid a dyddiad cau’r gystadleuaeth hon tua’r un pryd a phenderfynodd yr Eisteddfod rewi’r gystadleuaeth yn hytrach nag estyn y dyddiad. Ar y pryd teimlwn i, a nifer o rai eraill, bod hyn yn gamgymeriad.

“Ond ar ôl derbyn y pecyn gwelais mai’r Eisteddfod oedd yn iawn – oherwydd fe gafwyd cystadleuaeth ardderchog. I ddechrau, roedd pedwar ar ddeg wedi cystadlu – y nifer fwyaf ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Ar ben hynny yr oedd pob yn ohonynt yn gwybod beth oedd awdl a chynghanedd gywir. Nid ar chwarae bach y mae gweithio awdl ac rwy’n credu bod y pedwar ar ddeg yn haeddu clod am eu hymdrechion.

“Rwy’n teimlo fod y safon gyffredinol drwyddi draw yn dipyn uwch na’r norm. Byddai o leiaf ddwy ran o dair ohonynt yn cipio cadeiriau yn ein Heisteddfodau Taleithiol. Ac ar ben hynny, roedd y safon ar y brig yn rhyfeddol o uchel. Ar ôl chwynnu go eger roedd pump ar ôl ar y bwrdd i’w hystyried o ddifrif am Gadair Ceredigion ac fe allem dan amgylchiadau gwahanol fod wedi cadeirio unryw un o’r pump gyda chydwybod glir…”

Yr awdl fuddugol

O ran yr awdl fuddugol, dywedodd: “Hanes tad, mam a chrwt dwyflwydd yn treulio Gŵyl y Banc ar draeth Llangrannog sydd yma a hynny ar ffurf casgliad o gerddi – tair ar ddeg o delynegion unigol ac yn ffitio mewn i’r cyfanwaith. Mae’r cyntaf yn ymwneud â’r cyrraedd, yr olaf gyda’r gadael tra bod y gweddill yn trin gweithgareddau arferol gwyliau glan môr megis hel cregyn, codi cestyll tywod, prynu hufen ia ac ati.

“Ond mae yma lawer mwy na hynny. Mae’r bardd yn ymwybodol iawn o broblemau mawr yr oes – y newid hinsawdd, y gwastraff plastig, effeithiau niweidiol twristiaeth ar hyd y glannau a dirywiad y Gymraeg yn ei chadarnleoedd – maent i gyd yma o dan y tywod ynghyd â gofidiau mwy personol fel y broses o fynd yn hŷn, cyfrifoldebau penteulu a’r llwyth o ebyst sy’n disgwyl atebion. Ac er taw traeth cyfyng yw traeth Llangrannog nid oes yma ddim sathru yn yr un man.

“Ceir yma hefyd fôr o emosiynau o ddicter i dynerwch, o sinigiaeth i anwyldeb, ac mae’n hollol barod i chwerthin ar ben ei ymdrechion ei hunan.

“Ac o dan y cwbwl mae yna ymwybyddiaeth o pa mor ddi-rym yw dyn, fel y Caniwt gwreiddiol, i atal y llanw tragwyddol.

“Yn bersonol rwyf i yn ei roi ar y blaen oherwydd ei ddawn delynegol ac hefyd am iddo yn anad neb fynd i’r afael â’r testun gosodedig.

“Mae Emyr Lewis hefyd yn ei roi ar y blaen, o drwch blewyn, ac rwy’n dyfynnu ‘am ei gynildeb, treiddgarwch ac anwyldeb agos atoch ac am adrodd profiad cymhleth a digri bod yn rhiant o Gymro ar draeth Llangrannog’.

“Felly, o ddwy bleidlais i un, mewn cystadleuaeth ardderchog, caderier Cnwt Gwirion.”

Yr enillydd

Mae Llŷr Gwyn Lewis yn byw yng Nghaerdydd ac gafodd ei fagu yng Nghaernarfon.

Cafodd ei addysg yn Ysgol y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen, a dysgodd lawer hefyd yn Ysgol Glanaethwy, cyn mynd i astudio yng Nghaerdydd a Rhydychen.

Ar ôl cyfnod fel darlithydd yn Abertawe a Chaerdydd, mae ar fin dod i ddiwedd cyfnod hapus dros ben yn olygydd adnoddau gyda CBAC.

Mae Ceredigion eisoes yn agos at ei galon, gan iddo ennill cadair yr Urdd am y tro cyntaf yn Llanerchaeron yn 2010 cyn ennill drachefn yn Abertawe yn 2011.

Daeth yn ail am gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 ac yn drydydd yn 2018, ac yn agos yn ogystal am y fedal ryddiaith yn 2016. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth a dwy gyfrol ryddiaith.

Mae hefyd yn mwynhau perfformio’i gerddi yn fyw, a’i addysg farddol fwyaf fu ymrysona, talyrna, stompio a bragu yng nghwmni beirdd llawer gwell nag o’i hun.

Mae rhai o’r dylanwadau pennaf ar ei ganu caeth ymysg y beirniaid a’r archdderwydd eleni, ond maen nhw hefyd ymysg ei gyfeillion triw ar dimau’r Ffoaduriaid a’r Penceirddiaid, a chriwiau Bragdy’r Beirdd a’r edefyn yn ogystal.

Diolch

Does gan Llŷr Gwyn Lewis ddim syniad ymhle i ddechrau diolch, gan fod ei ddyled mor aruthrol i gynifer o wahanol bobl.

Mae’n mawr obeithio eu bod i gyd yn gwybod pa mor ddiolchgar ydi o iddyn nhw.

Ond o ran y gynghanedd, ni all beidio ag enwi Dei Fôn Williams a Llion Jones am roi seiliau mor gadarn iddo flynyddoedd yn ôl.

Yn bennaf oll ac yn fwy na neb arall, mae ei ddiolch i’w deulu ac yn enwedig ei rieni, ei nain a’i daid, ei frawd a’i chwaer, ac i Lowri, Math a Gwern am bopeth.

Y Gadair

Rees Thomas, Bow Street, sydd wedi cynllunio a chreu’r Gadair eleni.

Mae’n gyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth.

“Cefais fy ysbrydoli gan batrymau llif yr Afon Teifi wrth iddi ymdroelli o fryniau Elenydd drwy’r sir ac i’r môr ger Aberteifi,” meddai.

“Yn ogystal â chreu Cadair sy’n cymryd ei lle ar lwyfan ein Prifwyl, ro’n i hefyd yn awyddus i greu dodrefnyn sy’n addas ar gyfer y cartref.”

Bu Rees yn gweithio ar y cynllun gyda’i wraig, Mary, a chafodd y ddau gymorth gan un o’i gyn-ddisgyblion, Aled Richards, i blaenio’r pren a thorri’r morteisi.

Mae’r Gadair ei hun wedi’i chreu o goedyn derw.

“Rydw i wedi benthyg y syniad o gynnwys y nod cyfrin ac enw Ceredigion yng Nghoelbren y Beirdd o Gylch yr Orsedd yng Nghastell Aberystwyth,” meddai.

“Mae’r rhain wedi’u gwneud o bren derw’r gors o Gors Fochno ger Y Borth yng ngogledd y sir. Yn ôl arbenigwyr, mae’r gors yn dyddio’n ôl o leiaf pedair mil o flynyddoedd.”

Mae’r barcud coch hefyd yn cael lle amlwg ar gefn y Gadair, ac yn ôl Rees, mae’r ddelwedd yn seiliedig ar baentiad gan ei gyfaill, Wynne Melville Jones.

“Ro’n i am ddathlu llwyddiant ysgubol yr ymgyrch i achub a datblygu’r rhywogaeth, yn arbennig yn yr ardal yng nghanolbarth y sir o amgylch Tregaron, a pherthnasedd yr ymgyrch gadwraeth honno o safbwynt ein brwydr ni heddiw i sicrhau dyfodol ein hiaith,” meddai wedyn.

Caiff y Gadair ei noddi gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth, a chaiff y wobr ariannol ei rhoi er cof annwyl am Eluned ac W Ambrose Bebb, gan eu plant a’u hwyrion.

Bydd y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, ar werth yn dilyn y seremoni hon.