Mae ysgolhaig yn gresynu nad oedd cynhyrchiad o un o ddramâu mwyaf Tregaron a Cheredigion, Meini Gwagedd, wedi cael ei pherfformio ar y Maes eleni.
Roedd yr Athro M Wynn Thomas o Brifysgol Abertawe yn traddodi darlith ar fywyd a gwaith yr athro, y bardd, y dramodydd a’r ymgyrchydd James Kitchener Davies ar ran Cymdeithas Hanes Plaid Cymru brynhawn ddoe (dydd Iau, Awst 4).
Cafodd y llenor ei eni ar dyddyn tlawd i’r gogledd o Dregaron.
Ar ôl mynd i brifysgol Aberystwyth, aeth Kitchener Davies, neu ‘Kitch’, i lawr i’r Rhondda, lle y daeth yn athro, ac yn ymgyrchydd brwd dros Blaid Cymru a thros sefydlu ysgolion Cymraeg yn y Rhondda.
“Mae yn sicr yn haeddu cael ei fawrygu fel arwr cenedlaethol,” meddai M Wynn Thomas yn ei ddarlith.
“Yn ddiamau, Kitch yn anad neb, wnaeth baratoi’r ffordd ar gyfer sefydlu ysgolion Cymraeg yn y Rhondda.”
Un o’i gampweithiau yw’r ddrama Cwm Glo a gorddodd y dyfroedd a chael sylw mawr yn y wasg oherwydd ei phortread cignoeth o’r glöwr cyffredin. Roedd y gŵr yn y ddrama yn yfed a gamblo, yn cam-drin ei wraig, ac yn barod i ganiatáu i’w ferch buteinio ei hun.
“Os cofiwch chi, fe fu bron i Gwm Glo greu reiat,” meddai M Wynn Thomas.
“Dw i’n cofio brawd Jim Griffiths, ‘Amanwy’, yn ffieiddio am y ddrama, am ei fod yn pardduo’r colier. Dyna fenter Kitch.”
Aeth ymlaen i gyfosod rhai o themâu Cwm Glo â’r “ddrama fawr a rhyfedd – campwaith arall chwyldroadol Kitch” – Meini Gwagedd, drama farddol am gynefin y bardd.
“(Drama) a ddylai fod yn cael ei pherfformio fan hyn yn y Steddfod eleni,” meddai M Wynn Thomas. “Dw i ddim yn deall pam (nad yw hi). Mae hi’n ddrama heriol, mae hi’n ddrama anhygoel, mae hi’n ddrama ysgytwol. Cefn gwlad yw thema Meini Gwagedd. Y cwm yw thema Cwm Glo.”
Drama “hunllefus”
Drama yw Meini Gwagedd “sy’n llawn o ysbrydion y meirw,” yn ôl M Wynn Thomas. “Ysbrydion sy’n gaeth i’r hen aelwyd, am na fedran nhw ddiodde’ dod yn wyneb yn wyneb â’r gwirionedd am eu bywyd nhw ar yr aelwyd honno, y bywyd hunllefus gawson nhw ar dir y byw.
“Oherwydd hynny mae eu cydberthynas nhw hyd yn oed yn y byd nesaf, yn ymylu ar fod yn rhyw fath o losgach ysbrydol afiach. Yn ffaelu dianc o gwmni ei gilydd o gwbl…”
Soniodd fod iechyd meddwl yr actor Jacob Davies wedi dioddef ar ôl iddo chwarae rhan yn Meini Gwagedd.
“Dyma pa mor hunllefus yw’r ddrama yna, fel Ibsen,” meddai. “Mae e’n chwalu’r myth am y werin. Yn gwmws yr un peth ag y gwnaeth Cwm Glo ei wneud wrth chwalu’r myth am werin y graith. Fe welwch chi’r gyfatebiaeth rhwng y Gymru wledig a’r Gymru ddiwydiannol.”
Dawnsio ar dir y Llain
Ar brynhawn olaf yr Eisteddfod, mi fydd perfformwyr yn ymateb i gerdd enwog James Kitchener Davies, ‘Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu’ ar dir y Llain, lle mae murddun cartref y bardd.
Enw’r perfformiad yw ‘Coron Caron’, ac fe fydd yn digwydd o amgylch cromen, neu yurt, helyg sydd wedi cael ei rhoi ar y tir ers mis Hydref y llynedd, gan y perfformwyr dawns Marc Rees a Michelle Cain yn rhan o brosiect hirdymor Cro/Pan.
Dau o’r perfformwyr yw’r actor a’r cyflwynydd Alun Elidyr, a fydd yn llefaru’r gerdd neu ran ohoni, a’i ferch Elan Elidyr. Y perfformwyr eraill yw Christopher Tandy, Eddie Ladd, Osian Meilir a Glyn Roberts.
“Byddwn ni’n ymarfer am ddiwrnod, ac yn byrfyfyrio am 4pm o flaen cynulleidfa,” meddai Marc Rees. “Maen nhw i gyd o gefndir ffermio, ac roeddwn i eisiau dod â nhw at ei gilydd i ymateb i’r safle a’r gerdd ei hunan.
“Y themâu yw’r cynefin a’r filltir sgwâr, a hefyd eu hatgofion plentyndod nhw, gan eu bod nhw i gyd wedi cael eu magu ar fferm. Fe fyddan nhw efallai’n dychmygu’r patrymau oedden nhw’n ei wneud pan oedden nhw’n blant rownd clos y ffarm a chaeau’r fferm.
“Gallwn ni ddefnyddio’r patrymau fel strwythur i greu symudiad a dawnsio. Byrfyfyrio byddwn ni, ond dw i’n edrych ymlaen at archwilio ar y diwrnod ei hunan. Byddwn ni’n defnyddio’r cerflun helyg, a’r goedwig fach lle mae olion fferm Kitchener Davies yna o hyd, i berfformio arno ac ymateb iddo.”
Mae tir y Llain tua hanner awr o daith gerdded o Faes yr Eisteddfod. Mae yna gôd QR ar gael i’w sganio i’ch ffôn i gael y map ar gromen goed sydd y drws nesaf i’r Lle Celf ar y Maes.
- Mi fydd yr actores Rhian Blythe yn llefaru rhan o ‘Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu’ yn ystod y sesiynau Monologau’r Maes: Yn Fyw am 1pm a 4pm heddiw (ddydd Gwener).