Gruffydd Siôn Ywain, sy’n wreiddiol o Ddolgellau, sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

Derbyniodd ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn heddiw (dydd Iau, Awst 4) mewn seremoni arbennig.

Caiff y Fedal Ddrama ei rhoi am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Cafodd y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol, ei gwobrwyo.

Mae Gruffydd Siôn Ywain yn derbyn y Fedal Ddrama (er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).

Caiff rhan o’r gwaith buddugol ei chyflwyno yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.

‘Nyth’ oedd y gwaith buddugol, ac fe ddefnyddiodd y ffugenw ‘Dy Fam’.

Y feirniadaeth

Y beirniaid eleni oedd Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams, ac meddai Janet Aethwy wrth draddodi ar ran ei chyd-feirniaid, y “daeth pymtheg ymgais i law a braf nodi fod yna ystod o botensial yn y dramâu… hoffem annog pawb fu’n cystadlu i barhau i sgwennu ar gyfer y theatr yng Nghymru – a hoffem hefyd annog cwmnïau theatr yng Nghymru i barhau i gynnig cyfleoedd i ddramodwyr i ddysgu eu crefft.”

“Dyma stori afaelgar wedi ei saernïo’n gelfydd,” meddai am y darn buddugol.

“Mae’n ddrama hyderus a chrefftus sy’n portreadu perthynas cwpwl gwrywaidd sy’n chwilio am fam fenthyg er mwyn creu teulu, a’u perthynas hwy gyda ffrind benywaidd.

“Mae’r themâu yn gyfredol a dadleuol a pherthnasol i gynulleidfa heddiw (ac) mae’r cymeriadau yn gwbl gredadwy, yn gelfydd a chrwn.

“Mae’r ddeialog yn ffraeth ac yn emosiynol ac yn llifo’n wych.

“Mae’r dramodydd yn defnyddio ei gymeriadau i wthio’r plot yn ei flaen yn araf a phwyllog ac mae sicrwydd y bwriad wrth adeiladu’r stori yn dal ein sylw wrth i ni fuddsoddi yn nhynged y cymeriadau.”

Yr enillydd

Er iddo fyw gyda cwlt o lysieuwyr yn Orllewin Affrica, goroesi cystadleuaeth dawnsio llinell mewn bar amheus yn Tecsas a chreu hufen ia blas neidr gyda chanlyniadau trychinebus – ennill y fedal ddrama yn sicr yw camp fwyaf Gruffydd Siôn Ywain hyd yma!

Cafodd ei fagu ym Mhenybryn Dolgellau, gyda’i ddau frawd a’i chwaer.

Er iddo astudio yn Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol y Gader a Choleg Meirion Dwyfor yr addysg fwyaf oedd y Sesiwn Fawr flynyddol ble cymerodd ei gamau cyntaf fel dylunydd ifanc.

Yn dilyn ei Safon Uwch, treuliodd gyfnod yn Ghana yn dysgu, profiad bythgofiadwy a ddangosodd iddo nad oedd dyfodol iddo mewn byd addysg!

Treuliodd flwyddyn yng Ngholeg Menai ar gwrs sylfaen celf lle gafodd gyfle i arbrofi â gwahanol dechnegau celfyddydol cyn penderfynu mai dylunio graffeg ac animeiddio oedd ei faes.

Symudodd i Goleg Chelsea Llundain i astudio dylunio a chyfathrebu ac mae wedi byw yn Llundain ers 15 mlynedd erbyn hyn.

Fel aelod o Gôr Llundain, mae’n rhan o gymdeithas Cymraeg clos y ddinas.

Mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol yn y BBC, yn gyfrifol am ddyluniad systemau cynhyrchu a chreadigol y gorfforaeth.

Mae hefyd yn parhau i greu gwaith creadigol llawrydd, yn cyd-weithio yn ddiweddar gyda Sŵnami, Hansh a’r Urdd.

Mae ei ddiddordeb yn mewn drama a chyflwyniadau theatrig o bob math wedi cael ei faethu yn ystod ei gyfnod yn Llundain ond dyma’r tro cynaf iddo gystadlu am y fedal ddrama.

Mae modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal tan Awst 6.