Bum mlynedd ers sefydlu Mas ar y Maes, mae’r prosiect yn lansio pennod newydd yn hanes y bartneriaeth ar Faes Eisteddfod Ceredigion, gan wahodd partneriaid newydd i ymuno â nhw.
Daw hyn yn dilyn llwyddiant yr arlwy amrywiol dros y blynyddoedd, ac yn dilyn grant o bron i £150,000 eleni gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Mas ar y Maes â Balchder.
Y partneriaid yn ymuno ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Stonewall Cymru a’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru fydd Glitter Cymru, Pride Cymru, Pontio Bangor, a chynrychiolaeth eang o bartneriaid hunangyflogedig creadigol LHDTC+.
Mae meithrin a datblygu talent newydd gan hefyd ddyrchafu lleisiau a chymunedau sydd heb eu cynrychioli’n hanesyddol wedi bod yn nod ers cychwyn Mas ar y Maes yn 2018.
Y nod ychwanegol gyda’r bennod newydd gyffrous hon yw cyflwyno diwylliant Cymraeg a Chymreig i gymunedau LHDTC+ nad ydym eisoes yn eu cyrraedd, a’r bwriad yw arddangos cynnwys newydd cwiar Cymraeg yng ngweithgaredd Pride Cymru a Glitter Cymru yn y dyfodol.
Confensiwn cenedlaethol cyntaf
Yn ogystal â chomisiynu cynnwys celfyddydol newydd, bydd Mas ar y Maes â Balchder yn cynnal eu confensiwn cenedlaethol cyntaf, Camp Cymru ar Faes yr Eisteddfod yn 2023.
Dyma fydd y sgwrs genedlaethol gelfyddydol cwiar gyntaf o’i bath yng Nghymru, a bydd gwahoddiad i artistiaid a gwneuthurwyr creadigol ddod ynghyd i drafod y celfyddydau cwiar yng Nghymru gan hefyd hel syniadau ar gyfer sut i arloesi’n y dyfodol.
“Mae’r prosiect ‘Mas Ar y Maes’ yn fenter bwysig iawn ar gyfer y gymuned LHDTC+ o liw yng Nghymru; gan fod ein cymunedau wedi wynebu gwahaniaethu hanesyddol ac wedi ein cau allan o bob math o gelfyddyd,” meddai Rania Vamvaka, cyd-gadeirydd Glitter Cymru.
“Mae recordio straeon ein pobol, dogfennu’u profiadau byw, ac amlygu straeon pobl o liw LHDTC+ drwy gelf, yn rhywbeth rydyn ni’n teimlo’n angerddol amdano.
“Mae Glitter Cymru yn credu’n gryf y bydd y prosiect drwy gydweithio â’r Eisteddfod a Stonewall Cymru, ymysg eraill, yn helpu i ddathlu taith ein cymuned drwy amser, yn tynnu sylw at ein gwir amrywiaeth, ac nid yn unig yn arddangos diwylliant mwyafrifol hoyw gwyn.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect yma’n gyfle i ddod i adnabod y gymuned o liw LHDTC+ Cymru, a bod ein straeon yn cael eu deall a’u harddangos ym mhob rhan o Gymru.”
‘Ehangu gweithgarwch Cymraeg’
“Mae’n wych cael bod yn rhan o’r bartneriaeth newydd yma am gymaint o resymau; yn fwy na dim, rydyn ni’n edrych ‘mlaen at gydweithio ac ehangu’n gweithgarwch Cymraeg sydd ar gael yn Pride Cymru a’n prosiectau drwy’r flwyddyn,” meddai Cath Harrison, rheolwr elusen Pride Cymru.
“Trwy gydweithio a dysgu o’n gilydd, gobeithio y gallwn adeiladu cymuned genedlaethol o sefydliadau a phobol LHDTC+ Cymraeg sydd am i’n diwylliant cwiar Cymraeg ffynnu a mynd o nerth i nerth.”
Gan gychwyn sgwrs genedlaethol am ddiwylliant a chelfyddydau Cymraeg cwiar, y gobaith fydd cyrraedd cynulleidfaoedd yn ardaloedd mwy gwledig Cymru, yn ôl Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio;
“Dwi’n hynod falch bod Pontio yn bartner ac yn rhan o brosiect Mas ar y Maes â Balchder, a ariennir gan raglen gyllido Cysylltu a Ffynnu Cyngor y Celfyddydau,” meddai.
“Mae’n hollbwysig bod y gymuned LHDT+ yn cael ei chynrychioli ledled Cymru a thrwy gydol y flwyddyn a dyna pam bod y prosiect hwn yn argoeli i fod mor flaengar a phellgyrhaeddol.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld beth a ddaw.”