Bydd prif weithredwr newydd Cyngor Conwy yn derbyn cyflog o £129,195-£137,103.
Cyhoeddodd Iwan Davies, y prif weithredwr presennol, yr wythnos ddiwethaf ei fod e am ymddeol ar ôl 11 mlynedd wrth y llyw, a 29 o flynyddoedd yn gweithio i’r awdurdod lleol.
Bydd e’n aros yn ei swydd tan bod ei olynydd wedi’i benodi, fydd yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn fwy na thebyg.
Fe wnaeth pwyllgor cyflogaeth uwch y Cyngor gyfarfod y tu ôl i ddrysau caëedig yr wythnos ddiwethaf i drafod y pecyn a fydd yn cael ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Mewn pecyn cyflogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr, mae Charlie McCoubrey yn disgrifio Conwy fel cyflogwr gwych gyda diwylliant tîm gwych.
“Rydyn ni’n edrych am berson pobol all weld y darlun mawr, a bod yn greadigol wrth ddatblygu datrysiadau i faterion cymhleth,” meddai.
“Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus record wych o ran cyrhaeddiad ac yn gallu cyfarwyddo wrth i ni foderneiddio mewn byd ôl-bandemig a cheisio rhagoriaeth.
“Mae’n parhau’n gyfnod heriol i lywodraeth leol, ac rydym am geisio penodi arweinydd sy’n wleidyddol graff ac yn chwaraewr tîm, sydd â dychymyg a brwdfrydedd, sy’n deall gofynion unigryw sir Conwy.
“Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i wneud marc go iawn ac i arwain ac ychwanegu at ein tîm profiadol.
“O weithio o fewn diwylliant o syniadau a ffyrdd o weithio, fe gewch gefnogaeth wleidyddol gref i ddatblygu eich arweinyddiaeth a’ch creadigrwydd.”
“Bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol yn yr arena wleidyddol gymhleth, gan ddylanwadu a siapio ymddygiad er mwyn ceisio cefnogaeth ddemocrataidd yn ogystal â chefnogaeth swyddogion a rhanddeiliaid ar gyfer mentrau allweddol ac i gyflwyno canlyniadau positif.”
Mae’r pecyn ymgeisio’n cadarnhau mai £129,195 – £137,103 yw’r cyflog.
Mae lle i gredu bod yna gyfraniad pensiwn o ryw £27,000.
Mae gan ymgeiswyr tan ganol nos ar Fedi 22 i wneud cais.