Un rheswm dros lwyddiant y Blaid Lafur yng Nghymru ydy ei hunaniaeth Gymreig, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Mae’r Blaid Lafur wedi ennill pob etholiad cyffredinol yng Nghymru ers can mlynedd, sy’n “record gwbl ddigynsail yn y byd democrataidd unman yn y byd”.
Yn ystod sgwrs ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron rhwng Mark Drakeford a’r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd y Prif Weinidog bod sicrhau hunaniaeth wahanol i’r blaid yn un o bum rheswm dros y llwyddiant.
Yn nhyb Richard Wyn Jones, mae yna “rywbeth ynglŷn â’r ffordd mae pobol yng Nghymru yn meddwl am eu hunain sy’n gwthio nhw i gyfeiriad pleidiau mwy blaengar ac sydd yn gwthio nhw’n bell i ffwrdd o’r Blaid Geidwadol”.
Dydy’r Blaid Geidwadol heb ennill etholiad cyffredinol yng Nghymru ers 1859.
‘Hunaniaeth wahanol’
“Mae nifer fawr o resymau [dros y llwyddiant], dw i’n siŵr, natur Cymru a natur cymdeithas yng Nghymru, pwysigrwydd yr undebau i ni yma yng Nghymru, ambell berson pwysig yn ein hanes ni hefyd,” meddai Mark Drakeford.
Ond wrth gyfeirio at bum rheswm, dywedodd Mark Drakeford mai gwaith caled, undod, hygrededd, hunaniaeth a dilysrwydd yw’r prif elfennau.
“Hygrededd – pan rydych chi’n siarad gyda phobol yn y wasg ac yn y blaen, pob tro rydyn ni’n mynd yn ôl at bobol yng Nghymru adeg etholiad maen nhw’n dweud wrtha i, ‘Mae hi mor anodd i chi ennill achos rydych chi wedi bod mewn grym ers mor hir’.
“I fi, dyw e ddim yn gweithio fel yna. Pan rydyn ni’n mynd mas i ddweud wrth bobol, ‘Dyma ein maniffesto ni, dyma rydyn ni’n addo ei wneud’ rydyn ni’n gallu dweud wrth bobol edrych ar be’ rydyn ni wedi’i wneud yn barod, mae record gyda ni ac mae hygrededd yn dod o hynny.
“Y pedwerydd peth ydy hunaniaeth. Mae hynna’n bwysig dros ben i ni, Plaid Lafur Gymreig ydyn ni. Mae’r gair yna, Cymreig, yn bwysig dros ben i ni.
“Mae hunaniaeth wahanol gyda ni fel plaid. Roedd Rhodri Morgan, pan oeddwn i’n gweithio iddo fe, roedd hwnna’n rywbeth hollol bwysig iddo fe.
“Ar ôl yr etholiad cyntaf, mwyafrif bach, bach dros ben. Dw i’n cofio fe’n dweud wrtha i mai’r gwaith oedd perswadio pobol ledled Cymru i gefnogi datganoli a gwneud hynna drwy roi pwyslais ar ein hunaniaeth fel parti ac fel llywodraeth.”
Wrth egluro sut mae dilysrwydd wedi cyfrannu at y llwyddiant, dywedoddd Mark Drakeford ei fod eisiau creu Plaid Lafur sy’n defnyddio llais Plaid Lafur, “sy’n rhoi polisïau blaengar radical a realistig, ond polisïau sy’n tynnu ar ein hanes ni fel plaid. Polisïau y mae pobol yn gallu eu gweld, maen nhw’n rhan o’r traddodiad Llafur”.
“I fi, un o’r rhesymau pam rydyn ni wedi llwyddo yma yng Nghymru, rydyn ni eisiau bod yn glir gyda phobol os ydych chi’n pleidleisio dros Llafur, llywodraeth Llafur ydych chi am ei gael,” meddai wedyn.
‘Ddim yn Blaid Geidwadol’
Man cychwyn llwyddiant Llafur “ydy ei bod hi ddim yn Blaid Geidwadol”, meddai’r Athro Richard Wyn Jones yn ystod y sgwrs yn yr Eisteddfod.
“Y rheswm dw i’n dweud hynny yw mai’r tro diwethaf yr enillodd y Blaid Geidwadol etholiad cyffredinol yng Nghymru oedd yn 1859.
“Mae hynna’n rhyfeddol, a be’ sy’n ddiddorol am eleni, y rheswm yw bod y 1922 yn flwyddyn arwyddocaol i’r Blaid Lafur Gymreig yw mai dyna’r etholiad cyffredinol cyntaf i’r Blaid Lafur ennill y nifer mwyaf o bleidleisiau a’r nifer fwyaf o seddi – rhywbeth mae hi wedi ailadrodd bob un tro ers hynny, sy’n record gwbl ddigynsail yn y byd democrataidd yn unman yn y byd.
“Cyn hynny, roedd yna 60… 70 mlynedd o ddominyddiaeth Ryddfrydol.
“Felly, mae yna rywbeth ynglŷn â’r ffordd mae’r bobol yng Nghymru yn meddwl am eu hunain sy’n gwthio nhw i gyfeiriad pleidiau mwy blaengar ac sydd yn gwthio nhw’n bell i ffwrdd o’r Blaid Geidwadol.
“Un o’r pethau canolog ydy, i lawer iawn o bobol yng Nghymru, mae ddim bod yn Dori yn rhan o be’ ydy bod yn Gymro neu’n Gymraes.
“Mae o mor sylfaenol â hynna. Wrth gwrs, mae yna fwy i’r stori na hynny, ond mae peidio bod yn Geidwadol yn fanteisiol iawn yn y cyd-destun Cymreig. Ac i fi, dyna’r rhaniad mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru.
“Mae yna lot o bobol yn trio ailddehongli gwleidyddiaeth Cymru drwy lens Albanaidd yn gynyddol, cenedlaetholwyr v pobol sydd o blaid yr undeb. A dw i’n deall pam, ond nid dyna’r rhaniad sylfaenol yng Nghymru.
“Y rhaniad sylfaenol yw’r bobol sydd gan y byd olwg Cymreig yma a’r bobol sydd ddim, ac dydy’r bobol sydd efo’r byd olwg Cymreig yma jyst ddim yn cefnogi’r Ceidwadwyr ac mae’r Blaid Lafur yn ddeheuig, ac nid ffliwc ydy cynnal canrif o ddominyddiaeth, wedi gweithio efo’r byd olwg Cymreig ac wedi newid efo hynny.”