Bydd gŵyl fwyaf yr iaith Wyddeleg yn dathlu 120 mlynedd ers iddi ddechrau dros y penwythnos hwn.
Cafodd gŵyl Seachtain na Gaeilge le Energia, sy’n hyrwyddo iaith a diwylliant Iwerddon, ei sefydlu yn 1902, a bydd lansiad cymunedol yr ŵyl yn digwydd yn ninas Galway heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 26).
Mae’r ŵyl yn gyfle i bobol fwynhau’r iaith Wyddeleg, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yr ŵyl eleni yn denu pobol sydd heb gymryd rhan yn yr ŵyl yn y gorffennol.
Bob blwyddyn, mae’r ŵyl ryngwladol yn para 17 niwrnod, o Fawrth 1 nes Diwrnod Saint Padrig (Mawrth 17), ac mae hi’n cynnwys digwyddiadau megis cyngherddau cerddorol, teithiau hanesyddol, céilís, darlithoedd a nosweithiau barddoniaeth.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu 120 mlynedd o Seachtain na Gaeilge eleni,” meddai Conchubhair Mac Lochlainn, cadeirydd yr ŵyl.
“Mae’r ŵyl yn cryfhau bob blwyddyn, a dw i’n siŵr y bydd dathliadau eleni’n ysbrydoli hyd yn oed mwy o grwpiau i gymryd rhan yn nathliad mwyaf yr iaith Wyddeleg dros y byd.”
‘Ehangu ychydig eiriau’
Cormac Ó hEadhra, cyflwynydd radio gydag RTÉ o Connemara, y chwaraewr rygbi Sene Naoupu, a’r seren TikTok Séaghan Ó Súilleabháin yw llysgenhadon yr ŵyl eleni.
“Rydyn ni wrth ein boddau yn cael llysgenhadon mor wych eleni,” meddai Orlaith Nic Ghearaillt, rheolwr yr ŵyl.
“Mae gan Sene, Cormac a Séaghan eu straeon eu hunain gyda’r iaith Wyddeleg ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n denu pobol o wahanol gefndiroedd i gymryd rhan yn Seachtain na Gaelige le Energia a siarad ychydig o Gaelige, eu traddodiad newydd nhw eleni.”
Energia sy’n noddi’r ŵyl, a dywedodd Lorna Danaher, rheolwr noddi gyda’r cwmni, bod 120fed dathliad yn achlysur “mawr”.
“Mae thema’r ŵyl ‘Traidisiún Nua’ [Traddodiad Newydd] yn cael ei adlewyrchu i’r dim drwy ein tri llysgennad hyfryd, Sene, Cormac, a Séaghan.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y digwyddiadau eleni, ac yn annog pawb i ymuno â ni’n ehangu ein cúpla focal [ychydig eiriau].”
Mae’r ŵyl wedi’i threfnu gan Conradh na Gaeilge, fforwm democrataidd ar gyfer siaradwyr Gwyddeleg, ers ei sefydlu yn 1902.