Mae’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi methu â chyflawni rhan o’i gynllun iaith, yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Fe wnaeth y Comisiynydd gynnal ymchwiliad statudol i waith y Cyngor gan asesu sut yr oedden nhw’n gweithredu eu cynllun iaith o ddydd i ddydd.

Ond, fe ddangosodd canlyniadau’r adroddiad eu bod nhw “wedi methu â chyflawni ymrwymiadau o’r cynllun iaith.”

Roedd gan y Comisiynydd amheuaeth o weithrediad y Cynllun Iaith o fewn y Cyngor yn dilyn diwygio’r cod ymarfer yn ddiweddar. Am hynny, fe aeth ati i gynnal ymchwiliad statudol o dan adran 17, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae’r cod ymarfer bellach yn nodi y dylai nyrsys a bydwragedd cofrestredig allu cyfathrebu yn glir ac yn effeithiol yn y Saesneg a’r Gymraeg.

Fel gwasanaeth sy’n gofalu am les y cyhoedd, mae’r cynllun iaith yn nodi eu bod yn “ymrwymedig i gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yn yr iaith neu’r fformat o’u dewis.”

Argymhellion

Yn sgil yr adroddiad, mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig pedwar o argymhellion i’r Cyngor:

* ailedrych ar oblygiadau ieithyddol y polisïau, er mwyn diwallu gofynion Cynllun yr iaith Gymraeg yn llawn.

* ailystyried y cod ymarfer diwygiedig a ymgynghorwyd arno – a hynny yng nghyswllt yr iaith Gymraeg

* diwygio’r canllawiau i staff ar sut i gynnal dadansoddiadau o effaith polisïau ar gydraddoldeb.

* sicrhau bod trefniadau mewn lle i gadw cofnod cynhwysfawr o’r ystyriaeth a roddir i oblygiadau ieithyddol y polisïau a’r mentrau newydd.

Mae amserlen benodol wedi’i gosod ar gyfer gweithredu’r argymhellion hyn, a bydd swyddogion y Comisiynydd yn monitro’r cynnydd.