Dalek yn siopa yng Nglannau Dyfrdwy
Cafodd siopwyr mewn archfarchnad ar Lannau Dyfrdwy dipyn o fraw dros y penwythnos wrth i fyddin o Daleks feddiannu’r siop.
Gwelwyd nifer o’r Daleks, sy’n elynion pennaf Dr Who yn y gyfres deledu boblogaidd, yn hawlio’r mannau storio troli, ceisio tynnu arian o’r tyllau yn y wal ac yn cymdeithasu â staff y siop Asda.
Ond, doedd dim i’w ofni gan mai yno i hyrwyddo digwyddiad ‘Robots Live’, sef Pencampwriaeth Ymladd Robotiaid Prydeinig oedden nhw – mae’r bencampwriaeth yn cael ei chynnal yng nghanolfan hamdden Glannau Dyfrdwy ar benwythnos 20-21 Hydref.
Trefnydd y digwyddiad ydy Mike Young, o Swydd Gaerlŷr.
“Roedd dydd Sadwrn yn grêt, y Daleks gafodd y sylw mawr fel arfer” meddai Mike Young.
“Roedd yna lawer o siopwyr wedi drysu’n llwyr. Roedd ‘na lawer o ddiddordeb ac ry’n ni’n gobeithio bydd yna ragor eto ar gyfer sioe.”
Dechreuodd Mike Young, a’i feibion Alan a Dave, gynnal digwyddiadau Robots Live yn 2001 ar ôl dod yn ffans o’r gyfres deledu Robot Wars.
Bydd y robotiaid yn ymweld â’r siop unwaith eto ddydd Sul, cyn mynd draw i’r Ganolfan Hamdden i gefnogi’r tîm hoci ia lleol, Dreigiau Dyfrdwy wrth iddyn nhw herio’r Blackburn Eagles.