Bu bron i fronnau Imogen Thomas ddianc o’u clwydi’r wythnos hon, yn ôl papur newydd The Sun.
Roedd y Gymraes boblogaidd o Lanelli mas tu fas yn Llundain mewn ffrog binc ddeniadol, siaced ledr ddu, sodlau uchel du a bag papur pinc.
Cafodd llun y ferch 29 oed ei dynnu wrth iddi adael parti lansio Famous Cosmetics yn The Rose Club.
Daeth i enwogrwydd am siarad Cymraeg gyda Glyn Wise ar raglen realaeth Big Brother.