Marni Kotak cyn yr enedigaeth (o wefan y Microscope Gallery)
Mae artist o Efrog Newydd wedi creu’r gwaith celf mwya’ sylfaenol erioed – trwy eni babi mewn oriel.
Roedd Marni Kotak, 36, o Brooklyn wedi creu ystafell yn oriel y Microscope Gallery yn arbennig ar gyfer y digwyddiad ac fe ddaeth y babi ddoe.
Mae hi’n credu mewn creu gweithiau celf o phob agwedd o’i bywyd – yn y gorffennol mae hynny wedi cynnwys gwahodd pobol i fyw gyda hi yn ei thŷ ac ail-greu’r foment pan gollodd ei gwyryfdod.
Roedd nifer o bobol yn yr oriel yn gwylio’r enedigaeth ac fe fydd fideo o’r digwyddiad yn cael ei ddangos yn y dyfodol.
Meddai Marni
“Yn fy ngwaith, dw i’n ceisio cyfleu fy mhrofiad go iawn o fywyd, gan gymryd rhan yr un pryd mewn digwyddiadau dilys sy’n cael eu rhannu gyda fy ngwylwyr sydd, fwy na thebyg, wedi bod trwy ddigwyddiadau tebyg neu gysylltiedig.”