Eisteddfod Marianglas

Nos Wener, 21 Hydref, yn brydlon am chwech o’r gloch cynhaliwyd Eisteddfod Marian fel y’i cynhaliwyd ers y flwyddyn 1924 yn ddi-dor. Roedd y lle yn hollol orlawn, a’r gefnogaeth o ran cynulleidfa a chystadleuwyr yn fendigedig.

Wrth ddod i mewn i’r neuadd roedd y waliau amryliw yn wefreiddiol, gyda gwahanol luniau gan gystadleuwyr ifanc ein hysgolion lleol yn ffenestr i waith ymroddedig eu hathrawon. Fel erioed arddangoswyd gwaith celf o safon uchel ar y byrddau ger y llwyfan, a phob un yn haeddu canmoliaeth.

Porthorion croesawgar y Steddfod oedd y bonheddwyr Owie Williams a Peter Wyn, a gwnaed pawb yn gartrefol o’r cychwyn cyntaf.

Argyfwng byddarol

Arweinydd rhannau agoriadol y gweithgareddau oedd Mared Hughes, a gyflwynodd y plant lleiaf gyda gofal arbennig, yn ei ffrog amryliw drawiadol.

Ond druan â Mared. Yng nghanol cystadleuaeth yr unawd offerynnol, pan oedd un delynores fedrus wrthi ar y tannau, fe ganodd y larwm tân byddarol. Dychrynwyd pawb i ffitiau, ac aeth nifer o wroniaid i chwilio am y fflamau, Gwilym Hawes, Peter Wyn ac Ifan Hughes, y cyw drydanwr, yn eu plith.

Yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb yn wyneb deddf Iechyd a Diogelwch galwodd y swyddogion rif 999 ar ffôn symudol.

Deliodd Mared yn feistrolgar â’r argyfwng cythryblus, ac erbyn hynny gwyddai na ddylai fod wedi gwisgo sodlau mor uchel ar gyfer gwaith mor helbulus o annisgwyl. Yr oedd yn rhyddhad mawr iddi pan gymerwyd yr awenau wedyn gan Mrs Rhian Mair, a oedd yr un mor hunanfeddiannol yn wyneb yr enbydrwydd dybryd.

Cyn inni fedru dweud “penwaig Moelfre” ymddangosodd arwyr glew Injan Dân Benllech yn eu lifrau melyn a du yn y drws. Daethant i mewn i gymeradwyaeth fyddarol y plant a pherlewyg y genod ifanc, heb sôn am ambell nain!

Roedd y rheini wedi dechrau gafael yn eu bagiau brechdanau a’u hymbaréls a llygadu’r drws agosaf i fachu oddi yno.

Ymlaen a’r sioe

Archwiliwyd y neuadd a gwelwyd mai nam bychan yn y larwm ei hun oedd yn gyfrifol. Clywyd ochenaid o ryddhad gan bawb pan sicrhaodd ein harwyr ni nad oedd unrhyw berygl gwirioneddol.

Ni allai Sam Tân fod wedi cyflawni’r orchest angenrheidiol yn well. Tawelwyd y storm ac ailddechreuodd y cystadlu. Aeth y gwaith yn ei flaen o nerth i nerth, a chafwyd eisteddfod wych.

Ar ôl i’r plant lleiaf berfformio mor dda, cadwyd y safon uchel drwy gydol cystadlaethau’r ieuenctid. Cafodd y Pwyllgor eu boddhau’n ddirfawr gan gefnogaeth dalgylch Ysgol Syr Thomas Jones ac i Glwb y Petha yn yr Ysgol honno a fu’n paratoi mor drylwyr ar gyfer y noson.

Gwerthfawrogem hefyd bresenoldeb yr athrawon dawnus a fu’n eu hyfforddi, gwaith gwerthfawr yn yr oes hon, gyda chymaint o bwyslais ar waith papur dienaid byd addysg.

Pleser i mi fel ysgrifennydd, a fu’n dysgu yn Ysgol Amlwch yn 1960, oedd gweld fod yr iaith Gymraeg mor gadarn ac iach ag erioed yn 2011.

Uchafbwyntiau

Ymhlith uchafbwyntiau eleni oedd côr Ysgol Syr Thomas Jones yn canu gwaith un o’r disgyblion, y cyfansoddwr ifanc Iwan Wyn Owen o Garreg-lefn. Ni ellid sôn am bob perfformiad clodwiw, ond rhaid cyfeirio at gyflwyniad eneidiog Bethan Owen allan o Cwtsho gan Manon Rhys.

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Lisa Rowlands i Llio Bryfdir o Bontnewydd fel y cystadleuydd mwyaf addawol o blith y plant lleiaf.

Enillydd Tlws yr Ifanc oedd Morfudd Owen o Marianglas, sy’n amlwg yn dilyn yn ôl troed ei mam, Sian Owen. Aelodau’r Orsedd yn y seremoni oedd Llinos Evans, Carwyn Jones, Sorcha Roberts, Gwen Elin Jones, a ganodd gân y seremoni, Catrin Edwards, Gruffydd Roberts, Jenny Nuttbourne, a Gareth Jones yn gweithredu fel Archdderwydd.

Diolch arbennig i Gadeirydd y Pwyllgor, Mrs Margaret Parry a’r Trysorydd Miss Mary Roberts a’r aelodau am eu gweledigaeth yn pennu gwobrau mor anrhydeddus i blant ac ieuenctid ochr ddwyreiniol Môn sy’n trysori ein treftadaeth.

Yn sicr bu’r Eisteddfod yn hwb i’n diwylliant mewn sawl ffordd. Os oedd ysgolion cynradd eraill dalgylch Amlwch yn debyg i Ysgol Moelfre, deffrowyd awydd nid yn unig i greu â geiriau ond i greu â phren a phaent. A bydd tystiolaeth i hynny yn y llongau lu a welir ar silffoedd ffenestri Mr Arfon Jones y saer-hyfforddwr clên.

Boed i’r Eisteddfod danio dychymyg plant ein hysgolion am flynyddoedd eto.

Adroddiad gan Valmai Rees Jones